Dadorchuddio map stori Ein lle creadigol

Map stori yn arddangos creadigrwydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 27 May 2021

Mae Ein Lle Creadigol yn brosiect cydweithredol rhwng Caerdydd Creadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru a phobl greadigol a gomisiynwyd i lunio stori greadigol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar y cyd.

Mae'r 11 darn newydd yn dangos creadigrwydd ar draws y rhanbarth, o got caredigrwydd radical i gerflun iâ'n cynrychioli colled COVID-19, o ddawns ar fryniau Treorci i animeiddiad stop-symud o flwyddyn ym mywyd artist.

Mae'r map stori yn dilyn pobl greadigol o gopaon mynyddoedd, trwy goedwigoedd, ar hyd afonydd, i ganol dinasoedd ac i lawr strydoedd trefi a phentrefi. Mae'r gweithiau'n datgelu straeon o'r gorffennol ac yn edrych i'r dyfodol, yn archwilio myth, ac yn herio'r hyn mae lle yn ei olygu i ni. Mae'r bobl greadigol wedi amlygu eu cymuned, rhyfeddu at natur, mynegi diolchgarwch a chofnodi gwytnwch.

Mae'r map stori digidol yn cynnwys mynegiant creadigol o le gan: Claire Hiett + Carys Fletcher, Erin Mali Julian, Francine Davies, Gwenllian Davenport, Hunk Williams, James Tottle, Justin Teddy Cliffe, Lucy Jones, Naz Syed, Rufus Mufasa a Stuart H. Bawler.

Our creative place 2021 creative pieces

Dywedodd Vicki Sutton, rheolwr prosiect Caerdydd Creadigol: “Mae dod i adnabod a gweithio gyda’r grŵp hwn o bobl greadigol dros y misoedd diwethaf wedi bod yn bleser gwirioneddol.

Mae dyfnder a gonestrwydd eu straeon wir yn ysbrydoli ac yn dangos i fi pa mor gyfoethog yw ein rhanbarth yn greadigol.

"Trwy'r broses aeth llawer o'r bobl greadigol ati i greu neu gryfhau cysylltiadau â'i gilydd yn ein sesiynau gweithdy ar-lein - gan helpu gyda chyflenwadau, syniadau a chymhelliant - ac i Caerdydd Creadigol mae'r cysylltiadau hyn a'r cydweithio hwn yr un mor bwysig â'r map stori terfynol. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y gwaith creu lleoedd hwn yn y dyfodol."

Mae'r Athro Jon Anderson, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, wedi myfyrio ar lunio lleoedd a map stori Ein lle creadigol.

Dywedodd: “Trwy eu cyfuniad o ddychymyg, creadigrwydd a daearyddiaeth mae'r gweithiau hyn yn ein gosod ni yn stori bywydau pobl eraill (ac yn gosod pobl eraill yn stori ein bywydau ni hefyd). Maen nhw'n ein hatgoffa am yr amrywiaeth sydd yn ein cymunedau, yr oedrannau a rhyweddau gwahanol, y gorffennol a'r presennol amrywiol, pob un ag ystod o werthoedd a delfrydau sy'n creu ein rhanbarth. Mae'r gweithiau hyn yn ein hatgoffa bod dychymyg, creadigrwydd a daearyddiaeth yn ein helpu i adfywio empathi gyda’r gwahaniaethau ym mywydau pobl eraill, a theimlo balchder gwirioneddol am y ffyrdd y maen nhw'n cyfuno i greu ein rhanbarth.

“I mi, mae'r comisiwn hwn yn arwyddocaol. Mae'n ein hatgoffa mai'r cyfan sydd angen i ni ei wneud yn ein bywydau newidiol, pan fyddwn ni'n teimlo'n unig, yw estyn allan. Mae celf, creadigrwydd, pobl a lle yn ferfau a all ein helpu; gallant 'ein hebrwng ni drwodd'. Mae'n gweithio i'r artistiaid hyn, fel cynhyrchion a chynhyrchwyr eu cymunedau, a gall weithio i ni fel eu cynulleidfa hefyd.”

Mae'r 11 darn i'w gweld ar fap stori Ein lle creadigol yma.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event