Justin Teddy Cliffe

Pan gefais y dasg o edrych yn agosach ar y ddinas lle rwy'n byw, sylweddolais rywbeth am fy mherthynas â hi a wnaeth i fi deimlo fwy fel twrist. Nid o'r fan hon, ond yn y fan hon. Heb fy ngeni yma, ond cael fy nghanfod yma.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 29 April 2021

Wrth ymchwilio ymhellach i'r syniad penderfynais ymweld â mannau poblogaidd a mannau amhoblogaidd y ddinas mewn ymgais i'w gwerthfawrogi fel ymwelydd neu dwrist. Drwy wneud hyn, rywsut gwelais ystyr a symbolaeth ddyfnach yn yr eiconograffeg a phresenoldeb pob strwythur a gofod. Syrthiais mewn cariad â Chasnewydd o'r newydd.

Felly mae'r ffilm yn ryw fath o lythyr cariad i Gasnewydd. Mae'n ymwneud â faint mae'n fy ysbrydoli, ond hefyd sut mae gwerthoedd a barn allanol pobl am y ddinas yn gwneud i mi deimlo oddi mewn. Mae'n ymwneud â sut mae'r ddinas yn aml yn teimlo ei bod yn cael ei dal rhwng dau beth, boed hi’n annwyl neu'n ffiaidd, yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus, yn tanio neu beidio

Mewn ymgais i fynegi hyn i gyd penderfynais greu realiti dwysach lle gallwn i fodoli fel dyn-canolfan-gwybodaeth-twristiaid-symudol-unig, yn flinedig ac ar ymylon cael fy nadfreinio, ond yn dal i gynnal balchder ac ymdeimlad o optimistiaeth.

Yn y ffilm fe welwch rai o'r crysau T a gynlluniais yn gynnar yn y broses. Roeddwn wrth fy modd yn gwneud y rhain ac rwyf i wrthi'n cynllunio mwy. Fe'u hysbrydolwyd gan Grysau T twristiaid o Florida, ond yn cynnwys dehongliadau o henebion adnabyddus Casnewydd. Wrth greu'r rhain roeddwn i am ddatblygu mytholeg ychydig yn absẃrd i'r ddinas, gan greu gwrthrychau ffisegol sy'n awgrymu bod Casnewydd yn addas i dwristiaid. I mi mae'r Crysau T hyn yn crynhoi'n berffaith y thesis neu'r syniad cyffredinol; bod llefydd yn odidog os ydyn ni'n eu creu felly.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event