Rufus Mufasa

Fyddaf i byth yn gwybod beth fydd y gwaith, nac i ble fydd yn mynd â fi, ond rwy'n gwybod bod rhaid i fi fynd i mewn yn noeth, gyda haen o groen ar goll, wedi fy arfogi â dim mwy nag ysgrifbin. Gwnaeth COVID i mi wir ymddiried yn y broses ar lefel arall, a gyda'r prosiect hwn fe ymgollais yn y gymuned mewn ffyrdd nad oeddwn wedi eu rhagweld, ffyrdd o ddeall ffabrigau a fframweithiau fy mhobl a’m llanwodd â barddoniaeth a balchder. Fframweithiau matriarchaidd sydd wedi llenwi ein cymunedau â gobaith a chariad. Grym arloesol sydd wedi ein dal ac sy'n ysbrydoli newid.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 4 May 2021

Fy ngwaith celf yw un o'r pethau mwyaf radical i'w gwneud yn ystod y 18 mis diwethaf, a fy ysgrifennu yw fy ngweddi dros gynnydd. Fy nghreadigrwydd yw fy mhrotest heddychlon. Llafur emosiynol fu asgwrn cefn y pandemig, ac yn fy ffordd fach fy hun rwyf i wedi ceisio tystio'r lleisiau a'r straeon hyn.

Dros y 18 mis diwethaf rwyf i wedi canfod gwydnwch enfawr yn fy nghelfyddyd. Ond fyddwn i ddim wedi gallu cyflawni hyn heb gymuned. Mae gennyf ffrindiau hardd sy'n fy helpu gyda fy nghwestiynau diddiwedd, yn fy helpu i ymchwilio, gwirio cyfieithiadau, dal fy llaw, fy atgoffa i anadlu, fy nghodi, bob amser o'm plaid, bob amser yn gwerthfawrogi'r hyn rwy'n ei wneud. Mae'r prosiect hwn yn taflu goleuni ar y bobl hyn a helpodd fi i fynegi fy mherthynas gyda ffydd, fy ailgysylltu â gweddi a helpu i wella fy nghalon.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event