Lucy Jones

Rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi tyfu i fyny yn Nhreorchy. Dyma bentref bywiog yn llawn ysbryd cymunedol; man lle mae pawb yn adnabod pawb. Man lle byddwch chi'n stopio i ddweud helo o leiaf 10 gwaith ar eich taith fer i lawr y stryd fawr.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 28 April 2021

Dechreuais ddosbarth dawns yn theatr y Park and Dare pan oeddwn yn saith oed. Roeddwn i'n dawnsio yno bob nos Fercher, ac yn perfformio ar y llwyfan mawr bob mis Mawrth. Mae fy hyfforddiant dawns wedi mynd â mi i Gaerdydd, Leeds, Manceinion, Llundain, a digon o leoedd rhyngddynt. Rwyf bellach yn ôl yn y Cymoedd gyda’r cyfyngiadau symud, ac mae'r gymuned hyd yn oed yn fwy gwydn ac ysbrydoledig nag erioed o'r blaen. Rwyf wedi cymryd yr amser hwn i ailosod, archwilio a pharhau i greu. 

Rwy'n ddiolchgar i Gaerdydd Creadigol am y comisiwn hwn, am ganiatáu imi rannu'r Cymoedd yn ei holl ogoniant (yn ystod y cyfyngiadau symud). Rwy’n arbennig o ddiolchgar i Becky Davies am yr holl gefnogaeth ac arweiniad wrth wella fy ngweledigaeth gyda sawl perl o ddoethineb.

Ni fyddai'r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb gymorth ac ysbrydoliaeth fy nheulu rhyfeddol, Mair, Sharon, Kyle, Anthony, a’m ffrind, Katie. Y criw gorau y gallwn fod wedi gofyn amdano erioed.

Yn olaf, diolch yn fawr iawn i berchnogion busnes a phobl Treorchy am gefnogi fy syniad. Gobeithio y byddwch yn ei hoffi.

Dan sylw;

Coleman’s Opticians

Flowers by Kirsty

Rhondda Chiropractic Clinic

The Lion

Villa Value

Wonder stuff

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event