Myfyrio ar Ein Lle Creadigol

Ein lle creadigol. Comisiwn gan Caerdydd Creadigol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.

Myfyrdod ar y comisiwn, yr artistiaid, a'u gwaith.

Gan yr Athro Jon Anderson, cynullydd yr Atlas Llenyddol (www.literaryatlas.wales), Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 4 May 2021

Rydym ni oll yn arsylwyr ac yn gyfranogwyr yn ein byd newidiol. Wrth i barhau i fyw bywyd mewn 'modd caled' (diolch James), gyda'r hyn yr arferem ei ystyried yn hanfodol bellach yn teimlo'n bell ac o bosib hyd yn oed yn ddiangen, mae'n bwysig atgoffa ein hunain am yr hyn sy'n ein gwneud ni'n ddynol. Mae'r comisiwn Caerdydd Creadigol hwn (mewn partneriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru) yn gwneud hynny'n union. Mae'n ein gwahodd i gofleidio pwysigrwydd dychymyg, creadigrwydd a daearyddiaeth wrth ddiffinio ein hunain. Mae'n ein hatgoffa bod pob un o'r nodweddion hyn yn bethau pwerus ar eu pen eu hunain, ond wrth weithio gyda'i gilydd, gallant drawsnewid.

Wrth i mi arsylwi a chymryd rhan yn y gweithdai i artistiaid oedd yn cefnogi'r comisiwn, synhwyrais y trawsnewid hwn ar waith. Yn eithaf serendipaidd, cyn y gweithdy cyntaf roeddwn i wedi treulio peth amser yn edrych ar bapur yn canolbwyntio ar breswylwyr yn Ninas Efrog Newydd a ddaeth at ei gilydd i drafod rôl Afon Hudson yn eu bywydau. Wrth siarad, mewn llyfrgell sych, oer yn Efrog Newydd (cyn y pandemig), awgrymodd y trefnwyr y gallai'r cyfranogwyr ddewis gair neu ddau oedd yn crisialu eu profiad gan eu gwahodd i'w hysgrifennu ar ruban glas. Cafodd y rhuban ei ddirwyn o stori i stori, ei ddal, ei drosglwyddo a'i rannu, gan gasglu geiriau a bywydau, a rhedeg fel afon Hudson ei hun drwy lyfrgell y ddinas. Wrth i mi ddeialu i mewn i weithdy’r Lle Creadigol, roedd fel pe bai proses debyg ar waith. O 'flwch' i 'flwch' ar sgrin fy ngliniadur, o le i le, ac o berson i berson, sïai syniad, gwreichionen, sbardun, wrth i stori pob artist o greadigrwydd ei moldio ei hun o'u 'hôl' yn eu lleoliad wrth iddo ddod yn fyw. Gallwn synhwyro pob blwch yn sïo wrth ddod yn rhan o'r gylched o greadigrwydd cysylltiedig a chyfunol.

Wrth i’r artistiaid rannu eu syniadau, a chael eu hannog i roi sylw i'r synau, y geiriau a'r delweddau a allai wthio ffiniau cyfryngau digidol, roedd yn amlwg i mi sut roeddem ni, y gynulleidfa, hefyd yn ganolog i'r gylched hon. Er yn draddodiadol gall ymddangos bod celf yn gyflawn pan fydd y brwsh paent yn cael ei roi i lawr am y tro olaf, yr ymyl olaf wedi'i sgleinio, a'r toriad olaf wedi'i wneud, roedd y comisiwn hwn yn ystyried y diweddglo hwnnw'n un dros dro yn unig. Roedd straeon yr artistiaid yn eu ffyrdd eu hunain yn ein dathlu ni. Mae Lle Creadigol yn ein gwahodd ni, chi a fi, ynghyd â'r boi yna yn y Ganolfan Gwybodaeth Twristiaid Symudol (diolch Justin), i ymgysylltu - ac os gwnawn ni hynny, gallwn ninnau ddod yn rhan o'r gylched hefyd.

Trwy eu cyfuniad o ddychymyg, creadigrwydd a daearyddiaeth mae'r gweithiau hyn yn ein gosod ni yn stori bywydau pobl eraill (ac yn gosod pobl eraill yn stori ein bywydau ni hefyd). Maen nhw'n ein hatgoffa am yr amrywiaeth sydd yn ein cymunedau, yr oedrannau a rhyweddau gwahanol, y gorffennol a'r presennol amrywiol, pob un ag ystod o werthoedd a delfrydau sy'n creu ein rhanbarth. Wrth i ni roi sylw i'r ffordd mae ein bywydau'n 'cordeddu ac yn clymu' (diolch Gwenllian), gallwn ein hatgoffa ein hunain o bwysigrwydd cysylltiadau teuluol uniongyrchol (diolch Lucy, James), gwaddol y rheini nad ydyn nhw yma gyda ni bellach, a sicrhau y gallwn 'gadw lle' i'w straeon er mwyn cyfoethogi ein dyfodol (diolch Reg). Mae'r gweithiau hyn yn ddigon gonest i gyfaddef y gall bod yn agored i greadigrwydd fod yn beryglus. Wrth i ni faglu drwy ein dychymyg, efallai y gwnawn ni gwympo, ond er y gallem greu amheuaeth, yn y pen draw mae'n werth chweil (diolch Erin). Gall ein helpu i wynebu ein cythreuliaid ein hunain, dod i delerau â'n gorffennol unigol a chyfunol, a'n helpu i gael cysur mewn mythau sy'n ein gosod yn y byd ehangach. Mae'r gweithiau hyn yn ein hatgoffa bod dychymyg, creadigrwydd a daearyddiaeth yn ein helpu i adfywio empathi gyda’r gwahaniaethau ym mywydau pobl eraill, a theimlo balchder gwirioneddol am y ffyrdd y maen nhw'n cyfuno i greu ein rhanbarth.

I mi felly, mae'r comisiwn hwn yn arwyddocaol. Mae'n ein hatgoffa mai'r cyfan sydd angen i ni ei wneud yn ein bywydau newidiol, pan fyddwn ni'n teimlo'n unig, yw estyn allan. Mae celf, creadigrwydd, pobl a lle yn ferfau a all ein helpu; gallant 'ein hebrwng ni drwodd' (diolch Rufus); mae'n gweithio i'r artistiaid hyn, fel cynhyrchion a chynhyrchwyr eu cymunedau, a gall weithio i ni fel eu cynulleidfa hefyd. Felly estynnwch allan, cysylltwch, 'toddwch', 'sblashwch' a 'theimlwch y tonnau' sy'n ein huno gyda'n gilydd (diolch Carys a Claire). Mewn byd lle efallai nad oes dim byd yn ein 'bodloni neu gyffroi' fel y byddem yn dymuno (diolch Reg), trwy estyn allan i le creadigol gallwn ddod o hyd i'n 'llythyrau coll' ein hunain, ein hanesion, a'n helfennau, a ffurfio 'geiriau' a all ein diffinio o'r newydd (diolch Gwenllian). Gall y gweithiau hyn, a gaiff eu hail-wneud wrth i ni eu cofleidio, barhau i roi 'cwtsh o hapusrwydd' i ni i gyd (diolch Naz); felly cliciwch yn ôl a dewch yn rhan ohono.

Ôl-nodyn.

Wrth i'r gweithdai ddod i ben, gofynnwyd yn ysgafn i ni ein 'diffinio ein hunain mewn brawddeg'. Yn yr ysbryd hwnnw, y gweithiau hyn? maen nhw'n gweithio. Yn eu ffordd eu hunain mae pob un yn fap i'n rhanbarth, map sy'n lleoli ein cyfunoliaeth a'n cynwysoldeb, map a all ein gwneud ni, os nad yn hapus bob amser, yna bob amser yn ddynol. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event