Francine Davies

Aberogwr, ar hyd yr arfordir treftadaeth, Bro Morgannwg, yw fy lle creadigol. Mae amser a dreuliwyd yn yr amgylchedd arfordirol hardd hwn wedi ysbrydoli llawer o ymatebion creadigol ynof. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 28 April 2021

Un ymateb o'r fath yw The Ogs. Ganwyd The Ogs o'r angen i roi bywyd newydd i ddillad sydd wedi’u gwisgo at yr edau a ffabrigau ail law. Maen nhw'n teimlo fel anrheg a ddaeth un diwrnod ac nad ydynt wedi gadael ers hynny.  Maen nhw wedi fy helpu i ddatblygu agwedd fwy cynaliadwy tuag at fywyd, ac am hynny rwy'n ddiolchgar iawn.

Mae'r stori troi lluniau hon a'r trac sain sy'n cyd-fynd â hi yn mynd â chi ar daith ddychmygus i le ysbrydoledig a elwir yn lleol fel The Deeps.  Mae creigiau garw, toredig a thywydd stormus gwyllt yn arwain at brofiadau synhwyraidd diddorol wrth i chi gerdded ar hyd y rhan hon o lwybr yr arfordir.  Oherwydd erydiad arfordirol, mae'r môr yn creu holltau, toriadau ac ogofâu yn wyneb y clogwyn.  Gellir clywed sŵn y môr yn y mordyllau suddedig sydd wedi codi ymhellach i mewn i’r tir.  Mae The Ogs yn mynd â ni ar daith ddychmygus, archwiliadol gan eu bod unwaith eto yn ein helpu i osod ein hunain mewn natur.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event