Un, dau, tri: Camau at ddatblygu fframwaith i gefnogi clystyrau creadigol rhanbarthol

Roedd prosiect Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol (Gorffennaf 2023 - Mawrth 2024) yn brosiect peilot gwerth £200K dan arweiniad Canolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd drwy rwydwaith Caerdydd Creadigol. Ariannwyd y gwaith drwy Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) fel rhan o fuddsoddiad o £2.6 miliwn mewn prosiectau ‘Arddangoswr’. Roedd y rhain yn bortffolio o wyth prosiect ledled y DU a gynlluniwyd i archwilio’r potensial mewn clystyrau cyfredol o ddiwydiannau creadigol i dyfu, denu buddsoddiad a chyflawni effaith.

Mae’r adroddiad hwn, a luniwyd gan Ganolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn edrych ar effaith Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer buddsoddi pellach yn y fframwaith fel ymyrraeth i ysgogi twf cynhwysol, democrataidd yn y sector ac ymestyn cyrhaeddiad ac effaith clystyrau presennol y sector creadigol yn y ddinas.