Os maent ar gael, hysbysebir cyfleoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw Caerdydd Creadigol yn gyfrifol am ddewis iaith hysbysebwyr allanol.
Swyddog Marchnata a Datblygu
Postiwyd gan: LloydGlanville
Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole yn chwilio am Swyddog Marchnata a Datblygu rhagweithiol a chreadigol i arwain ymdrechion i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o Gwrt Insole ac i sicrhau mwy o gefnogaeth i'w raglenni elusennol, diwylliannol, treftadaeth a masnachol.
Cydlynydd Prosiect y Celfyddydau ac Iechyd (Dwyieithog)

Postiwyd gan: Welsh National Opera
Rhan Amser - Cytundeb Cyfnod Penodol Mai 2026
Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Y Rôl
Cynhyrchydd Ymgysylltu

Postiwyd gan: Artes Mundi
Bydd pob un o’r chwe Chynhyrchydd Ymgysylltu yn gyfrifol am gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chanlyniadau ar gyfer Artes Mundi 11. Fel ffordd o ganfod a strwythuro’r agwedd hon ar ein rhaglenni cyhoeddus cyffredinol, bydd pob Cynhyrchydd Ymgysylltu’n cael ei neilltuo i gynnal ymchwil manwl i un o artistiaid Artes Mundi 11 sydd ar y rhestr fer.
Cynhyrchydd Ymgysylltu

Postiwyd gan: Artes Mundi
Bydd pob un o’r chwe Chynhyrchydd Ymgysylltu yn gyfrifol am gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chanlyniadau ar gyfer Artes Mundi 11. Fel ffordd o ganfod a strwythuro’r agwedd hon ar ein rhaglenni cyhoeddus cyffredinol, bydd pob Cynhyrchydd Ymgysylltu’n cael ei neilltuo i gynnal ymchwil manwl i un o artistiaid Artes Mundi 11 sydd ar y rhestr fer.
Rheolwr Gweithrediadau Diogelwch

Postiwyd gan: WalesMillenniu…
Teitl y Rôl: Rheolwr Gweithrediadau Diogelwch
Ystod Cyflog: £30,610 to £33,919
Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos
Math o Gontract: Parhaol blynyddol
Rheolwr/wraig Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd

Postiwyd gan: WalesMillenniu…
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Rheolwr Monitro Gwleidyddol

Postiwyd gan: Grasshopper
Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol sydd â chefndir ym meysydd gwleidyddiaeth, polisi, materion cyhoeddus neu lywodraeth, i helpu datblygu a goruchwylio ein gwasanaeth monitro gwleidyddol yn Grasshopper.
Rydym yn dymuno penodi rhywun sydd â chraffter gwleidyddol cryf, sgiliau rheoli prosiectau gwych, a hanes llwyddiannus o gyflawni mewn amgylchedd prysur.
Briff Dylunio: Map Tirwedd Tref Caerffili
Postiwyd gan: Ginkgo Projects
Rydym yn chwilio am ddylunydd, artist neu wneuthurwr i ddylunio a chreu map tirwedd yn rhan o raglen gwelliannau amgylcheddol rhwng Heol Caerdydd a Heol y Cilgant.
Mae'r prosiect yn rhan o fframwaith adfywio ehangach, sef Cynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035. Un elfen allweddol o'r cynllun hwn yw gwella'r gwaith o adrodd stori'r gorffennol a naratif y presennol, eu cefnogi a'u gwneud yn weladwy o fewn y treflun, er mwyn atynnu ymwelwyr a thrigolion lleol i ymweld a chrwydro canol y dref.
Goruchwylwr Bar a Chegin

Postiwyd gan: shermantheatre
LLAWN AMSER, PARHAOL
Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Goruchwylwr Bar a Chegin. Mae hon yn rôl gyffrous a heriol o fewn y sefydliad ac yn ganolog i'n helpu i gyflawni ein huchelgais i greu theatr wych a darparu profiad gwych i ymwelwyr fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a thu hwnt.
Recriwtio Ymddiriedolwyr Papertrail

Postiwyd gan: Papertrail
Mae Papertrail yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd i fod yn rhan o siapio dyfodol y cwmni ym myd y theatr a straeon na chlywir yng Nghymru
Rydym yn tyrchu am straeon na chlywir a’u rhannu gyda chynulleidfa mewn ffyrdd unigryw. Mae pob cynhyrchiad yn plethu ysgrifennu beiddgar gyda llwyfanu anturus, ac yn golygu gweithio law yn llaw â chymunedau wrth greu y gwaith. Mae ein proses yn cael ei yrru gan chwilfrydedd. Rydym yn awyddus i ddod i adnabod pobl mewn lleoliadau penodol a dod o hyd i’r stori sydd angen cael ei chlywed.