Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.
Teitl y Rôl: Cynorthwy-ydd Marchnata
Cyflog: £23,296 y flwyddyn
Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos
Math o Gytundeb: Cytundeb Tymor Penodol 6 mis
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae'r tîm Marchnata yn gyfrifol am feithrin a chynnal nifer gynaliadwy o gynulleidfaoedd ac ymwelwyr achlysurol ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau a chwsmeriaid ynghyd â datblygu ein henw da yn y parth cyhoeddus. I wneud hyn, rydym yn cynhyrchu deunydd marchnata i gyfleu ein cynigion cynhyrchu incwm yn ogystal â'n gweledigaeth elusennol ac artistig. Mae gennym hefyd ymrwymiad i sicrhau dull dychmygus o werthfawrogi a datblygu diwylliant a hunaniaeth Cymru ym mhob agwedd ar ein gweithgareddau.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau
Bydd y Cynorthwyydd yn rhan o'r tîm marchnata, gan weithio gyda nifer o randdeiliaid ar draws CMC a byddai'n gyfle gwych i rywun sy'n awyddus i ddechrau gyrfa mewn amgylchedd cyffrous a phrysur gan ennill profiad ymarferol o fewn y sector marchnata celfyddydau. Byddant yn adrodd i'n Rheolwr Marchnata ac yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweinyddol ar gyfer gweithgaredd yr adran. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos ochr yn ochr â chydweithwyr i gefnogi cyflawni mentrau marchnata a datblygu cynulleidfaoedd.
Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol
Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd sy'n gyfarwydd â chreu cynnwys ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, sydd â phrofiad o weithio gyda chyflenwyr ac sy'n deall egwyddorion datblygu cynulleidfaoedd. Bydd angen i chi feddu ar sgiliau trefnu cryf a rheoli blaenoriaethau cystadleuol yn effeithiol ynghyd â bod yn chwaraewr tîm cryf.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
- Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol ac anghenion gweithredol.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.
