Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl:Cynorthwy-ydd Manwerthu a Phrofiad Cwsmer Tymhorol x 10
Cyflog:£12.60 yr awr
Oriau Gwaith: Achlysurol
Math o Gytundeb: Achlysurol dros gyfnod y Nadolig
Dyddiad Cau: 6 Tachwedd 2025
Dyddiad Cyfweld:Wythnos yn cychwyn 10 Tachwedd 2025
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom Ni/Ein Hadran
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Cynorthwywyr Manwerthu a Phrofiad Cwsmer tymhorol i ymuno â'n tîm Gweithrediadau Cwsmeriaid.
Fel tîm, rydym newydd gwblhau ein blwyddyn fwyaf cyffrous hyd yma, gan lansio cinio Gala flaenllaw ar gyfer pen-blwydd CMC yn 20 oed, ynghyd â dathliad pen-blwydd cyntaf Ffwrnais, ein gofod newydd sbon. Wrth i ni gyrraedd ei 21ain blwyddyn, mae gennym gynlluniau cyffrous sy’n cynnwys lansio siop manwerthu newydd a fydd yn ganolbwynt manwerthu Bae Caerdydd.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau
Rydym yn chwilio am unigolion egnïol a brwdfrydig sydd â brwdfrydedd dros ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid i ymuno â'n tîm. Byddwch yn gweithio yn ein mannau gwerthu blaen y tŷ ac yn gwerthu rhaglenni a nwyddau yn ac o amgylch ein siop anrhegion moethus newydd sbon.
Disgwylir i chi gyflawni cenhadaeth CMC – i greu profiad heb ei ddychmygu, a bodloni neu ragori'n gyson ar ddisgwyliadau ariannol, gweithredol a gweledol y cwmni.
Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Beth Sydd Ynddo I Chi?
- Cyflogwr cyflog byw go iawn
- Hawl i Bensiwn Now
- Oriau gwaith hyblyg – dewiswch y shifftiau/oriau sy'n gweddu i’ch bywyd personol a'ch ymrwymiadau
- Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer: lles ac iechyd meddwl, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
- Mynediad am ddim i ddysgu Cymraeg ar-lein
- Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl
- Gostyngiad o 20% ym mwytai a chaffis Canolfan Mileniwm Cymru
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.
