Am y Rôl
Rydym yn chwilio am Swyddog Cynnwys Amlgyfrwng creadigol a rhagweithiol i ymuno â’n tîm Cyfathrebu. Byddwch yn arwain ar greu a chyflwyno cynnwys digidol deniadol ar draws ein platfformau – o’r cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan i ymgyrchoedd ac achlysuron allanol.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio’r ffordd rydym yn cysylltu â’n cynulleidfaoedd, gan helpu i ehangu ein cyrhaeddiad a sicrhau bod ein cynnwys yn arloesol, hygyrch, dwyieithog ac yn unol â’n brand. Byddwch hefyd yn cefnogi datblygu a gwerthuso ein Strategaeth Cyfryngau Cymdeithasol.
Amdanoch chi
Bydd gennych brofiad o reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol ac o greu cynnwys amlgyfrwng o ansawdd uchel – o fideos a graffeg i bostiadau dwyieithog sy’n taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd amrywiol. Byddwch yn hyderus yn defnyddio offer dadansoddi i lywio strategaeth ac yn deall arferion gorau digidol ac egwyddorion hygyrchedd.
Fel unigolyn creadigol gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, byddwch yn gyfforddus yn gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan reoli sawl prosiect a therfynau amser ar yr un pryd.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (ysgrifenedig a llafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd angen i chi allu cyfathrebu’n hyderus yn y ddwy iaith mewn cyfarfodydd, yn unigol ac yn gyhoeddus.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n deall diwylliant Cymru, y berthynas amrywiol sydd gan bobl Cymru gyda’r iaith Gymraeg, ac sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol o fewn Cyngor Celfyddydau Cymru a’r sector ehangach.
Mae gan bawb eu stori eu hunain gyda’r iaith, ac rydym yn cydnabod bod lefelau hyder yn amrywio o berson i berson. Rydym angen unigolyn sy’n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
