Rhywbeth Creadigol? 2:3 - Sut Le Yw'r Dirwedd Ddigidol - O'r Gweithle I'r Gymuned?

Dyma bodlediad i weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Yn ail gyfres Rhywbeth Creadigol? rydyn ni'n mynd â'r sgyrsiau ar-lein ac yn trafod gwaith creadigol a diwylliant yn y byd digidol. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 13 October 2020

I weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Bydd 'Rhywbeth Creadigol?' yn dod â gweithwyr ac arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol ynghyd i drafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, gan graffu ar yr ymchwil ddiweddaraf. Yn yr ail gyfres rydyn ni'n mynd â'r sgyrsiau ar-lein ac yn trafod gwaith creadigol a diwylliant yn y byd digidol. 

Yn ôl adroddiad gan Lloyds Bank roedd 1 mewn bob 4 person yng Nghymru’n methu defnyddio’r we cyn y cyfyngiadau, roedd yr adroddiad yn dweud mai Cymru, allan o 11 ardal arall oedd y lleiaf gwybodus o ran sgiliau digidol. Yn y bennod hon rydyn ni'n siarad â Huw Marshall ac Angharad Evans am uwchsgilio sydyn wrth symud o'r swyddfa i'r cartref, ymarferoldeb gweithio ar-lein yn Gymraeg, tlodi digidol, ymgysylltu â'r gymuned mewn ffyrdd newydd a'r effaith ar ein iechyd meddwl. 

Rhywbeth Creadigol c2p3

Mae gan Huw Marshal ddealltwriaeth eang o’r dirwedd ddigidol yma yng Nghymru ar ôl gweithio fel pennaeth digidol gyda S4C. Dros y blynyddoedd mae wedi datblygu arbenigedd a dealltwriaeth drylwyr o’r byd digidol yng Nghymru a thu hwnt yn enwedig yn y diwydiannau creadigol. Yn 2012 lansiodd y cyfrif twitter yr awr gymraeg sy’n cyrraedd dros miliwn o gyfrifon Twitter. Mae wedi ymwneud a goruchwylio prosiectau gyda chwmnïau mawr sefydlog yn ogystal â busnesau cynhwynol/eginol ac mae ganddo ddiddordeb mewn gweithio gyda chwmnïau dwyieithog/amlieithog (gan gynnwys y Gymraeg) neu rhai sy’n awyddus i weithredu’n amlieithyddol, gan ddefnyddio’r Gymraeg fel ffordd o gyrraedd marchnadoedd rhyngwladol.

Dewch i wybod mwy am waith Huw Marshall fel mentor digidol a dilynwch yr awr gymraeg ar Twitter (bob nos Fercher rhwng 8 a 9 yr hwyr).

Hefyd yn sgwrsio am ei phrofiadau hithau mai Angharad Evans, Cynhyrchydd gydag Artis Gymuned, sy’n ymgysylltu’n greadigol â chymunedau’n y cymoedd. Mae gwaith Angharad yn cynnwys cynhyrchu prosiectau penodol sy'n ymgysylltu a chefnogi cymunedau lleol ac ehangach Cymru. Mae hyrwyddo partneriaethau yn rhan bwysig o'i rôl. Mae ganddi llawer o brofiad a diddordeb mawr mewn gweithio gyda chymuned, gan ddefnyddio'r celfyddydau i gyfoethogi bywydau. Fel siaradwraig Cymraeg mae hefyd yn awyddus i hyrwyddo'r iaith Gymraeg. 

Dewch i wybod mwy am waith Angharad ac Artis Cymuned.

Gwrandewch ar y bennod gyfan: 

Sesiynau hyfforddi ac ymgysylltu am ddim:   

Ymchwil soniwyd amdano yn ystod y bennod:

Dyma bodlediad gan rwydwaith Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â’r gymuned greadigol.

Gwrandewch ar benodau eraill cyfres dau yma: 

2:1. Ydyn Ni'n Barod Am Ddiwylliant Digidol?

2:2. Sut I Annog Ffasiwn Meddylgar?

Gwrandewch ar benodau'r gyfres gyntaf yma:  

1:1. Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?

1:2. A Yw Creadigrwydd Yn Ffordd o Fyw?

1:3. Ydy Caerddydd Yn Ddinas Cerddoriaeth?