I weithwyr creadigol sy’n peoni am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.
Yn rhifyn pump o Get A 'Proper' Job mae Dr Sam Murray, darlithydd mewn Busnes Cerddoriaeth a Rheoli'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Middlesex Llundain, yn rhannu ei syniadau ar yr hyn sy'n gwneud Dinas Gerddoriaeth.
Wedyn byddwn yn sgwrsio gyda DJ Monique B, DJ o Gaerdydd, sy’n cyfansoddi a chanu ac yn aelod o fand pum dynes o’r enw Baby Queens. Bydd hi’n sôn am yr hyn mae cerddoriaeth yn y ddinas yn ei golygu iddi hi.
Dywedodd Monique: Cefais fy ngeni a'm magu yng Nghaerdydd, rwy'n caru'r ddinas. Rydw i wedi rhoi cynnig ar fyw mewn dinasoedd eraill fel Llundain ond rwy'n teimlo bod y bobl sydd o'm cwmpas yma yn gefnogol iawn i mi. Gallai ddatblygu llawer mwy ond rwy’n teimlo bod yr hyn sydd gen i gyda’r band yma yn addas i mi fel artist. Mae'n lle hyfryd i fyw - dwi'n teimlo bod y ddinas yn dylanwadu’n dda ar artistiaid."
Gallwch wrando ar sengl gyntaf Monique yn canu ar ei phen ei hun, Put It On You gyda Reuel Elijah, yma.
Recordiwyd y bennod hon ym mis Rhagfyr 2019.
Gwrandewch ar y bennod lawn:
Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.
Gwrandewch ar bennodau eraill o Get A ‘Proper’ Job: