I weithwyr creadigol sy’n becso am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol.
Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.
Ym mhennod un Get a ‘Proper’ Job, rydym yn clywed am yr ymchwil ddiweddaraf i hawliau llafur creadigol i lunwyr cynnwys digidol gan ddarlithydd ym maes y cyfryngau digidol, Dr Francesca Sobande o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.
Yna, bydd y dylanwadwyr Mark Tregilgis a Jess Davies yn ymateb i’r ymchwil hon a amlinellir gan Francesca.
Blogiwr testun a fideo o Gymru yw Jess, sy'n canolbwyntio ar faterion ffordd o fyw. Mae wedi gweithio gyda BBC Wales, S4C ac Orchard. Jabber with Jess yw’r gornel o’r we y mae hi’n ei churadu - man diogel ar gyfer rhannu meddyliau, barn a safbwyntiau.
Hyfforddwr personol yw Mark, ac ef yw sefydlydd 30 Plus Men’s Fitness. Mae ei wersylloedd hyfforddiant i’w cael ar draws y DU ond mae e hefyd yn cynnal cymuned o aelodau ledled y byd ar-lein. Mae wedi adeiladu ei frand drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, podlediadau a chynnwys fideo.
Mae Mark yn dweud bod ‘mynd ar-lein wedi newid ei fywyd’. Meddai: “Fe agorodd fyd newydd cyfan i fi – mae wedi dyblu fy incwm, wedi fy ngalluogi i deithio, mynd ar gyrsiau ledled y byd ac mae wedi fy helpu i gynnig bywyd hyfryd i’m teulu hefyd.”
Dywedodd Jess: “Y manteision i’ch busnes yw bydd pobl yn eich talu i gyhoeddi cynnwys ar-lein, ac os ydych chi’n ddiffuant ac mae gennych ddilynwyr organig, byddwch chi ar eich ennill a bydd mwy o frandiau eisiau gweithio gyda chi.”
Gwrandewch ar y bennod lawn:
Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.