Caerdydd Creadigol a BAFTA Cymru yn dod â chlwstwr realiti de Cymru ynghyd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 17 November 2017

Daeth Caerdydd Creadigol a BAFTA Cymru a thros 80 o ymarferwyr, arweinwyr busnes ac academyddion o bob rhan o dde Cymru ynghyd i edrych ar ffyrdd o ddatblygu’r defnydd o realiti rhithwir estynedig (VR a AR) yn y sectorau creadigol.

Yn ogystal ag asesu maint a siâp y clwstwr dechnoleg trochi yng Nghaerdydd a'r rhanbarth, datgelodd y digwyddiad y gwaith VR a AR arloesol ac amrywiol a gynhyrchir gan sefydliadau lleol, a'i effaith ar yr economi greadigol.

Mae'r realiti rhithwir yn cyfuno delweddau a seiniau o ansawdd uchel, gan alluogi’r defnyddwyr i brofi a gweld byd artiffisial, 3D a delweddau drwy glustffonau.

Mae realiti estynedig yn wahanol gan ei fod yn rhoi delwedd a gynhyrchir gan gyfrifiadur ar yr hyn mae’r defnyddiwr yn ei feddwl am y byd go iawn i ddarparu darlun cyfansawdd.

Mae cwmnïau arbenigol yn ne Cymru yn cyflwyno’r technolegau hyn ym myd celfyddydau ac adloniant, yn ogystal ag ym meysydd y gwyddorau meddygol, peirianneg, ac addysg a hyfforddiant.

Cynhaliwyd Gweledigaeth y Realiti Newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a drefnwyd ar y cyd gan Gaerdydd Creadigol, sy'n rhan o Dîm Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd a BAFTA Cymru.

Visioning the New Realities from Creative Cardiff on Vimeo.

Mae'n dilyn llwyddiant y gweithdy Doing Digital, Thinking Digital a gynhaliodd y ddau sefydliad yn 2016 yn Stiwdios Pinewood, a oedd yn ymchwilio i'r defnydd gorau o dechnoleg ddigidol a’i heffaith greadigol.

Dywedodd yr Athro Ian Hargreaves, Cadeirydd yr Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Mae dod â'r gymuned rith-wirionedd ynghyd yn bwysig iawn," meddai. "Mae profiad Caerdydd Creadigol yn awgrymu bod cryfhau ac ymestyn cysylltiadau ar draws economi ein rhanbarth yn talu ar ei ganfed.

"Mae rhith-wirionedd yn rhan gynyddol bwysig o'r byd digidol, nid yn unig mewn ffilm, teledu a gemau, ond hefyd mewn agweddau ar wyddoniaeth feddygol a lleoliadau eraill lle mae profiad mwy gweledol yn ychwanegu at y profiad."

Cafwyd cyflwyniadau gan sefydliadau REWIND, BBC Cymru Wales, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Orchard, Canolfan Mileniwm Cymru, Llywodraeth Cymru, Innovate UK a Grŵp Ymchwil  Rhith-wirionedd ac Gwirionedd Estynedig a Chofnodi Deuseiniol Prifysgol Caerdydd.

Cafwyd arddangosiadau Rhith-wirionedd a Realiti Estynedig gan Wales Interactive, Bristol VR Lab, 4Pi Productions a Sugar Creative, ymhlith eraill.

Daeth Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, â'r digwyddiad i ben drwy ddweud:  "Mae BAFTA yn ymgysylltu â phwyllgor rhyngwladol o arweinwyr y diwydiant ym maes Rhith-wirionedd a Realiti Estynedig ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o adolygu tirwedd Rhith-wirionedd ac ailystyried ei effaith ar genhadaeth y BAFTA.

"Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous yn natblygiad y maes hwn yn y diwydiant, ac rydym yn awyddus i greu cyfleoedd yng Nghymru er mwyn i bobl greadigol ddarganfod mwy a chael eu hysbrydoli i ymuno â'r sgwrs."

Yn dilyn Gweledigaeth y Realiti Newydd bydd Caerdydd Creadigol a BAFTA Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned drochi i gefnogi datblygiad clwstwr de Cymru ymhellach.

Cewch rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Caerdydd Creadigol yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event