Rydym am benodi Rheolwr Llais y Myfyrwyr sydd â phrofiad o feithrin partneriaethau â myfyrwyr ym maes addysg uwch. Mae'r swydd newydd hon, sy’n rhan o Dîm Ymgysylltu â Myfyrwyr Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd, yn allweddol er mwyn cyflawni strategaeth Addysg a Myfyrwyr y Ffordd Ymlaen 2018-23 a'r is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr, yn enwedig o ran 'llais y myfyrwyr'.
A chithau’n Rheolwr Llais y Myfyrwyr, byddwch yn rheoli gwasanaethau proffesiynol Swyddogion Ymgysylltu â Myfyrwyr yn yr ysgolion, gan weithio'n agos gydag arweinwyr academaidd, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a'r corff ehangach o fyfyrwyr, yn ogystal ag adran Cyfathrebu a Marchnata'r Brifysgol. Byddwch yn ysgogi gweithgaredd adborth myfyrwyr ac yn helpu i gyflawni strategaeth uchelgeisiol y Brifysgol ar gyfer gwella llais y myfyriwr.
Byddwch yn gyfrifol am gydlynu ymagwedd y Brifysgol at lais y myfyrwyr, gan gyflwyno strategaeth effeithiol a deinamig ar gyfer llais y myfyrwyr ar draws y sefydliad mewn partneriaeth â'n staff a'n myfyrwyr i wella'r profiad dysgu. Bydd y rôl yn canolbwyntio'n benodol ar sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o beth sy'n digwydd i'w hadborth, boed hynny’n gamau gweithredu sefydliadol neu’n gamau gweithredu ar lefel modiwlaidd, a bod eu barn yn cael ei gwerthfawrogi yng Nghaerdydd. Byddwch yn arbenigwr o ran rhoi llais i fyfyrwyr ac yn gallu gweithio gyda nifer o randdeiliaid.
A chithau’n rheolwr llinell profiadol, bydd gennych sgiliau diamheuol o ran arwain a rheoli’ch prosiectau eich hun ac ymgyrchoedd integredig, ar lein ac all-lein, ac yn ddelfrydol bydd gennych gefndir ym maes ymgysylltu â myfyrwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon neu os hoffech drefnu galwad ffôn i drafod y rôl yn fanylach, ebostiwch Ellie Mayo-Ward, Rheolwr Ymgysylltu â Myfyrwyr - mayo-warde@caerdydd.ac.uk.
Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos).