Mae Caerdydd Creadigol, mewn partneriaeth â Cyngor Sir Fynwy, yn cynnal cyfarfod misol rhwng mis Ionawr - mis Mawrth ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol, o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â chymuned greadigol Sir Fynwy at ei gilydd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.
Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.
Mae newyddiaduraeth ar gyfer dinasyddion, nid ar gyfer newyddiadurwyr
Bydd Paned i Ysbrydoli'r mis hwn yn dechrau gyda sgwrs fer gan Shirish Kulkarni.
Mae Shirish yn newyddiadurwr, ymchwilydd, trefnydd cymunedol a Chymrawd Ymchwil Arloesi Newyddion Media Cymru yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd.
Mae'n gweithio ar draws ystod o brosiectau cyfryngol ac artistig, gan ganolbwyntio'n arbennig ar adrodd straeon gydag ac ar gyfer phobl a chymunedau ymylol. Ar hyn o bryd mae’n arwain y prosiect Newyddion i Bawb, sef cydweithrediad â BBC News sydd â’r nod o ddeall a diwallu anghenion newyddiaduriaeth a gwybodaeth pobl sydd ddim yn gweld na chael gwerth o newyddiaduraeth draddodiadol ar hyn o bryd.
Digwyddiad Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol, darllenwch fwy.
Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect aml-randdeiliad a arweinir gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu rhwydweithiau a gweithgareddau creadigol ar lawr gwlad.