
Mae Ystafelloedd Dosbarth Caerdydd Creadigol yn gyfres o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl greadigol i blymio’n ddyfnach i thema benodol mewn sesiynau grŵp bach gyda siaradwr profiadol.
Ffocws Caerdydd Creadigol ar gyfer mis Mehefin yw brandio – drwy archwilio’r broses o adeiladu brand ar gyfer eich busnes neu ddatblygu brand personol fel gweithiwr llawrydd creadigol. Y mis hwn, byddwn yn meddwl am gynulleidfaoedd, asedau gweledol, cynnwys a sut i gadw'ch brand yn berthnasol, yn greadigol ac yn adlewyrchiad cywir ohonoch chi a'ch gwaith.
I gyd-fynd â’r thema hon, mae’n bleser gennym groesawu’r artist amlddisgyblaethol a dylunydd graffeg o Gaerdydd, Mark James, i arwain ein Hystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol.
Mae Mark James yn arbenigo mewn cyfarwyddo celf, dylunio graffeg, cyfarwyddo fideo, dylunio a brandio, gan gydweithio'n agos ag artistiaid, cleientiaid a sefydliadau am dros 25 mlynedd. Mae ei waith cysyniadol wedi’i ysbrydoli gan gymysgedd o ddiwylliant poblogaidd a sylwebaeth gymdeithasol ac mae wedi ennill enw da am fod yn ddigrif, yn heriol ac yn ddadleuol.
Fel cyn-gyfarwyddwr celf Island Records UK, mae wedi gweithio gydag artistiaid fel U2, Queen, The Beatles, Hozier, Jamie Cullum, Amy Winehouse, The Charlatans, DJ Shadow, Stereo MC’s, Avicii, The Fratellis a llawer mwy. Mae hefyd wedi gweithio gyda’r Super Furry Animals a Gruff Rhys ers dros 25 mlynedd; drwy greu gwaith celf, delweddau a fideos ar gyfer y band a’u prosiectau unigol amrywiol.
Bydd Mark yn siarad am y broses o greu brand, yn rhannu enghreifftiau ac yn trafod ei broses greadigol ei hun. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i Mark mewn lleoliad anffurfiol, grŵp bach.
Sylwch, mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i'w fynychu ond mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. Os na allwch ei wneud mwyach, cysylltwch â creativecardiff@caerdydd.ac.uk fel y gallwn ryddhau eich tocyn.