Pan ddechreuodd trafodaethau ynghylch cyflwyno Gŵyl Gerddoriaeth BBC 6 yng Nghaerdydd, roedd yna ddisgwyl i'r digwyddiad adael ei ôl ar y ddinas.
Yn hytrach, bydd Caerdydd yn gadael ei hôl ar yr ŵyl.
Mae gan y brifddinas statws ‘Dinas Gerddoriaeth’ a daw hynny gydag uchelgais mawr. Felly, pan gafodd y syniad o’r ŵyl Fringe gyntaf ei godi, cymerodd y ddinas y cyfle â breichiau agored.
Heddiw, 29 digwyddiad ar draws 12 llwyfan gyda mwy na 150 o artistiaid Cymreig yn perfformio yw’r Fringe.
Dave Ball, sy’n gweithio gyda Chymru Greadigol, oedd un o’r bobl flaengar yn sicrhau bod Gŵyl Gerddoriaeth BBC 6 yn dod i Gaerdydd a chreu’r Fringe.
Roeddem ni’n awyddus i sicrhau bod sîn gerddoriaeth Gymreig ar lawr gwlad yn cael ei chynrychioli. Awgrymodd Cerddoriaeth BBC 6 ein bod yn cyflwyno gŵyl Fringe y bydden nhw’n ei chefnogi ond byddai’n cael ei threfnu gennym ni.
Roedd hi’n dasg enfawr. Dechreuodd Gŵyl Gerddoriath BBC 6 yn 2014 ym Manceinion, ac mae hi wedi ymweld â Newcastle, Bryste, Glasgow, Lerpŵl a Llundain (doedd dim gŵyl yn 2018 na 2021).
Dechreuodd y gwaith caib a rhaw ar gyfer y digwyddiad yn nhymor yr Hydref 2021 pan esboniodd Ball a Chyngor Caerdydd beth oedden nhw’n gobeithio ei gyflawni i dîm Cerddoriaeth BBC 6 yn Salford, Manceinion.
Y cysyniad oedd rhoi rhyddid i lwyfannau ar lawr gwlad yng Nghaerdydd drefnu eu sioeau eu hunain, i'r tîm yng Nghaerdydd ddarparu brandio Fringe ac gyflwyno’r cyfan oll ar dudalen wê gyda manylion tocynnau a hysbysebion.
Roedd hyn yn galluogi i syniadau a digwyddiadau eraill fod yn rhan o’r brif ŵyl, megis Immersed – gŵyl flynyddol sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol De Cymru – sy'n gosod platfform i gerddoriaeth Gymreig a chodi arian i Teenage Cancer Trust.
Ymysg yr artistiaid i elwa ar yr ŵyl oedd y band roc indie Basic State.
Crëwyd y fideo hwn gan Tane Rogers-Eirug, myfyriwr yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.
Fe wnaethon nhw berfformio yn Tramshed ddydd Mawrth, Mawrth 29 fel rhan o arddangosfa Prifysgol De Cymru. Mae’r band wedi rhyddhau ambell EP hyd yma ac wedi perfformio slotiau cyn prif eitemau yn y ddinas a thu hwnt yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae grym y cyfle mae’r Fringe yn ei gynnig yn werthfawr iddyn nhw.
Dywedodd y blaenwr Harvey Sivell wrthym yn ystod sesiwn ymarfer yn y cyfnod cyn eu perfformiad:
Mewn gwirionedd, mae’n enfawr achos gallwn ni gael sylw o berfformio ein hoff ganeuon. Mae’r BBC yn gwmni cenedlaethol a rhyngwladol. Gobeithio gall hyn roi hwb ychwanegol inni.”
I Dave Ball, mae beth sydd gan Harvey i'w ddweud yn ddarlun o amcanion ehangach y Fringe.
Yn y pen draw, carwn i weld rai o artistiaid newydd anhygoel y Fringe yn ennill cyfleoedd i fynd â’u gyrfaoedd ymhellach o ganlyniad i'r sylw ychwanegol. Ry’m ni’n gobeithio bod hyn yn annog unrhyw un sydd ychydig yn ansicr am ddychwelyd i'r gigiau i fwynhau gwledd yn un o’n llwyfannau bach. Mae’r esgid wedi gwasgu arnyn nhw trwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd eu gweld nhw bron yn orlawn yn rhywbeth i'w groesawu.
Am fwy o wybodaeth ar yr ŵ yl Frindge eleni, ewch draw i wefan Immersed website neu Minty’s Gig Guide.