I weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Bydd 'Rhywbeth Creadigol?' yn dod â gweithwyr ac arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol ynghyd i drafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, gan graffu ar yr ymchwil ddiweddaraf. Yn yr ail gyfres rydyn ni'n mynd â'r sgyrsiau ar-lein ac yn trafod gwaith creadigol a diwylliant yn y byd digidol.
Ym mhennod gyntaf ail gyfres Rhywbeth Creadigol rydyn ni'n sgwrsio gyda Dylan Huw, Cynorthwyydd Datblygu Creadigol gyda National Theatre Wales a Phrif Weithredwr y platfform aml-gyfrwng diwylliannol AM, Alun Llwyd, am heriau ffrydio'r celfyddydau, blinder digidol a dyfodol theatr a diwylliant ar-lein.
Mae AM yn gymuned aml-gyfrwng yn dathlu a rhannu creadigrwydd diwylliannol Cymru ac ers lansio ym mis Mawrth mae'r platfform wedi ffynnu gan ffrydio Tafwyl a llu o waith celfyddydol arall gan gynnwys cynyrchiadau gan National Theatre Wales fel Go Tell The Bees.
Mae National Theatre Wales wedi lansio Network, rhaglen waith ddigidol newydd ar y cyd â BBC Cymru, Theatre Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman. Cynlluniwyd i gysylltu cynulleidfaoedd, cymunedau a gwneuthurwyr theatr â chyfleoedd i greu a phrofi theatr fyw, arloesol a gyflwynir drwy lwyfan digidol.
Gwrandewch ar y bennod gyfan:
Dyma bodlediad gan rwydwaith Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â’r gymuned greadigol.
Gwrandewch ar bennodau'r gyfres gyntaf yma:
1:1. Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?