Rheolwr Manwerthu

Cyflog
£32,097 - £33,788
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
30.01.2025
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 16 January 2025

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Rheolwr Manwerthu

Cyflog: £32,097 - £33,788 y flwyddyn

Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos

Math o Gytundeb: Parhaol blynyddol

Dyddiad Cau: 30.01.2024

Dyddiad Cyfweld: 04.02.2024

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Amdanom Ni/Ein Hadran

Mae gennym gyfle newydd cyffrous ar gyfer Rheolwr/wraig Manwerthu brofiadol i ymuno â'n tîm gweithrediadau cwsmeriaid.

Fel tîm, rydym newydd gwblhau ein blwyddyn fwyaf cyffrous hyd yma, gan lansio cinio Gala flaenllaw ar gyfer pen-blwydd CMC yn 20 oed, ynghyd â dathliad pen-blwydd cyntaf Ffwrnais, ein gofod newydd sbon. Wrth i CMC gyrraedd ei 21ain blwyddyn, mae gennym ni gynlluniau cyffrous sy’n cynnwys lansio siop manwerthu newydd a datblygu lleoliad awyr agored a fydd yn ganolbwynt i Fae Caerdydd yn haf 2025.


Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau

Bydd ein Rheolwr/wraig Manwerthu yn gyfrifol am agor siop newydd sbon, a fydd yn gartref i'r cynnyrch a gynhyrchir gan CMC ynghyd â gwaith gwneuthurwyr lleol. Byddwch yn arwain ar brynu a gwerthu nwyddau ar gyfer y siop, yn ogystal â dewis eich tîm eich hun i yrru'r siop yn ei blaen i fod yn gyrchfan ynddi ei hun.

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â busnes sy'n ehangu, gan greu cyfleoedd a fydd yn newid bywydau.

Bydd eich rôl yn amodol ar wiriad DBS.

Gofynion Allweddol

  • Arweinydd hyderus gyda phrofiad amlwg o arwain, ysbrydoli a rheoli timau gweithredol ym maes manwerthu.
  • Medrus wrth oruchwylio allfeydd lluosog, gyda phrofiad amlwg o gyflwyno rhagoriaeth weithredol i filoedd o westeion yn ystod pob digwyddiad a pherfformiad, mewn amgylchedd prysur.
  • Profiad blaenorol o fod yn atebol am elw a cholled a thystiolaeth o yrru proffidioldeb.
  • Positifrwydd, bywiogrwydd ac agwedd ‘gallu gwneud’, ynghyd â chymhelliant ac uchelgais i ymgymryd â phrosiectau a datblygu cyfleoedd penodol.
  • Profiad amlwg o ddewis a phrynu cynnyrch newydd a negydu cytundebau cyflenwyr yn effeithiol.
  • Yn llawn cymhelliant, yn hunan-ysgogol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
  • Sgiliau cynllunio a threfnu cryf i sicrhau bod stoc ar gael ar draws yr holl siopau ac yn cael ei arddangos yn greadigol i ddenu cwsmeriaid.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 32 diwrnod o wyliau blynyddol yn cynnwys gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar pan fydd y gwyliau banc yn disgyn·Bydd y rôl yn seiliedig ar batrwm gwaith blynyddol 1820 awr dros y flwyddyn·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event