Poster Caerdydd Creadigol: Jaffrin Khan

Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi comisiwn yn chwilio am wyth artist i ddylunio fersiwn o’n logo, oedd yn ateb i'r cwestiwn ‘Beth mae creadigrwydd Caerdydd yn ei olygu i chi?’.

Gellir gweld yr wyth dyluniad gwych a ddewiswyd ar gyfer y comisiwn hwn ar bosteri mewn lleoliadau ar draws canol dinas Caerdydd. Dewch o hyd iddynt i gyd a rhannwch eich ffefryn gan ddefnyddio'r hashnod #caerdyddcreadigol.

Darganfod mwy am un o'n hartistiaid, Jaffrin Khan:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 9 July 2023

A headshot of Jaffrin

Dywedwch wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch cefndir creadigol

    Rwy’n fenyw Fwslim Bangladeshaidd wedi fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd. Rwyf bob amser wedi bod yn greadigol, boed yn ysgrifennu, yn tynnu lluniau neu'n gwneud rhywbeth, mae wedi bod yn allanfa i mi ers pan oeddwn yn blentyn. Ar ôl cwblhau fy ngradd BA mewn Saesneg, dechreuais ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth, cyflwyno gweithdai, cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil a datblygu a arweiniodd at ddatblygu fy ngwaith gweledol. Mae fy ngwaith yn adlewyrchiad o'r croestoriadau yn fy hunaniaeth, gan agor trafodaethau ar dabŵau diwylliannol, archwilio perthnasoedd a myfyrio ar yr hunan. Yn fwyaf diweddar rwyf wedi gweithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru fel Cydymaith Creadigol, a roddodd y cyfle i mi ddatblygu fy ngwaith amlddisgyblaethol. Mae’r rhain yn cynnwys darluniau olew digidol, resin a cherfluniau seramig sy’n crynhoi diwylliant bwyd, traddodiadau, hunaniaeth, iechyd a’r amgylchedd Bangladeshaidd wrth archwilio profiad Bangladeshaidd ac yn myfyrio  ar orffennol trefedigaethol De Asia a’r berthynas sydd gennym ag ef heddiw.

    Sut byddech chi'n disgrifio'ch gwaith?

      Amlddisgyblaethol - cymysgedd o gymaint o feddyliau, atgofion a chysyniadau. Mae fy ngwaith gweledol ar y cyfan yn feiddgar ac yn lliwgar ar yr wyneb ond yn frith o wirioneddau gwaelodol dyfnach.

      Dywedwch wrthym am eich dyluniad ar gyfer y comisiwn hwn

        Mae fy narlun paent olew digidol yn fap o Butetown/Tiger Bay sy'n darlunio golygfeydd arwyddocaol o gelfyddyd a diwylliant. Ar ôl gweithio yn Butetown am nifer o flynyddoedd mewn rolau amrywiol, roeddwn yn wir yn cysylltu â’r cymunedau a’r sefydliadau sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth barhaus i mi. Mae Butetown yn gyfoethog yn ei hanes, yn amrywiol yn ei chymunedau ac yn fywiog ei chelfyddyd, ond mae’r pethau hyn yn aml yn cael eu hanwybyddu, gan adael Butetown ynghlwm wrth naratif negyddol. Mae tynnu sylw at fannau ym Mae Caerdydd sy’n dathlu’r celfyddydau a chymunedau yng Nghaerdydd yn rhywbeth rwy’n credu sy’n hynod o bwysig.

        Beth mae Caerdydd yn ei olygu i chi?

        Caerdydd yw fy nghartref. Y ddinas sydd wedi gweld yr holl fersiynau ohonof i. Mae wedi cadw lle i mi yn ei natur a’i ymdeimlad cyfoethog o gymuned.

        Poster Jaffrin

        Jaffrin's poster

        Cyfeiriadur rhwydwaith

        Ymunwch â'r rhwydwaith

        Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

        Jess Networking at a Creative Cardiff event