
Ymunwch â ni i gwrdd, cysylltu a dysgu gan pobl greadigol eraill, boed eich bod newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau, yn ein Paned i Ysbrydoli misol.
Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal Paned i Ysbrydoli, sef cyfle i artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol ddod ynghyd. Mae’r digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â’r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tri C pwysig – cysylltu, creadigrwydd a chaffein.
Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs ardull 'TED-talk' ar bwnc sy’n berthnasol ar draws pob sector creadigol, ac yna awr anffurfiol i feithrin perthnasoedd, rhannu gwybodaeth ac archwilio cyfleoedd newydd.
Thema Mehefin: 'Brandio' gyda brandio strategol a asiantaeth dylunio gwe Toward
Gyda dros 20 mlynedd fel cyfarwyddwr creadigol blaenllaw, yn siapio, arwain a thyfu brandiau, mae Tom Lloyd, Cyfarwyddwr Creadigol a Chyd-sylfaenydd Toward, yn arwain ac yn goruchwylio pob datblygiad a gweithrediad strategol. Mae Tom yn gweithio'n agos gyda chleientiaid a'u timau, yn arwain ar y weledigaeth strategol ac yn cyfarwyddo pob datblygiad creadigol gan sicrhau ei fod yn cynrychioli strategaeth gyffredinol y brand yn gywir.