Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu grym opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, mewn cymdogaethau ac ar-lein.
Mae'r adran farchnata yn gweithio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar gyfer ein gwaith yn ogystal â chadw cysylltiad â'n cynulleidfaoedd presennol. Gwnawn hynny drwy ein gwefan a chyfathrebiadau digidol eraill, cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu, marchnata uniongyrchol a llawer mwy.
Rydym yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Marchnata er mwyn cynorthwyo a chefnogi'r tîm marchnata drwy weinyddu a rhoi gweithgareddau ar waith ar draws ymgyrchoedd marchnata integredig, mewnwelediad cynulleidfa a rheoli print.
Bydd rhai o'ch cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau marchnata cyffredinol dros y ffôn a thros e-bost
- Cefnogi'r ddarpariaeth o ymgyrchoedd marchnata drwy gynhyrchu syniadau ac ymchwil desg
- Cefnogi gweithgarwch marchnata digidol WNO, yn cynnwys gwneud newidiadau i wefan WNO, creu negeseuon e-bost i hyrwyddo'r ymgyrch, ac amserlennu gohebiaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn ôl yr angen.
- Gwneud gwaith ymchwil ac ysgrifennu erthyglau golygyddol difyr ar gyfer gwefan WNO, yn cynnwys straeon newyddion rheolaidd
- Casglu gwybodaeth fywgraffiadol a lluniau pen gan asiantau ac artistiaid, a rheoli'r gwaith o'u ffeilio i'w defnyddio gan y tîm ehangach.
- Prawf ddarllen gohebiaeth farchnata a chasglu'r holl newidiadau i wella'r dyluniad yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo'r tîm marchnata drwy gysylltu â chyfieithwyr a chyflenwyr eraill yn ôl yr angen.
- Cysylltu â thîm rheoli'r Cwmni i gydlynu a chynhyrchu'r holl restrau cast, slipiau cyflenwi a phrint arall sydd ei angen ar gyfer Blaen Tŷ yn ystod tymhorau WNO, yn cynnwys ymarferion gwisgoedd
- Rheoli lefelau stoc print a chynorthwyo gyda darpariaethau print yn ôl yr angen. Cysylltu â chydweithwyr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ynglŷn â phrint blaen tŷ a monitro i sicrhau bod WNO yn cynnal presenoldeb cyson yn yr adeilad
- Casglu a dosbarthu adroddiadau wythnosol y Swyddfa Docynnau; cefnogi gweithgarwch ymchwil cynulleidfa ar gais y Dadansoddwr Mewnwelediad Cynulleidfa.
- Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol ar draws y tîm marchnata
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad canlynol:
- Lefel uchel o lythrennedd a rhifedd, gyda sylw rhagorol i fanylion
- Y gallu i weithio ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm
- Gallu gweithio ar sawl tasg, a’u blaenoriaethu, mewn amgylchedd prysur gan weithio at derfynau amser tynn
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog
- Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office
- Dealltwriaeth o gyfryngau cymdeithasol a digidol mewn cyd-destun marchnata
- Tuedd i ddysgu cymwysiadau digidol newydd yn gyflym ac i lefel uchel o hyfedredd
- *Cymraeg Lefel 4 (Cyfeiriwch at y Matrics Iaith Gymraeg)
- *Diddordeb mewn opera a / neu gelfyddydau perfformio eraill
- *Dealltwriaeth o ddamcaniaethau a chysyniadau marchnata sylfaenol
- *Profiad o weithio mewn adran farchnata
- *Profiad o ddefnyddio systemau CMS gwefannau
- *Profiad o ddefnyddio Basecamp, Trello neu arfau cynllunio eraill
Mae pwyntiau sydd wedi'u marcio â seren (*) yn ddymunol yn hytrach nag yn hanfodol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 06/01/2025
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Anogwn bobl o unrhyw gefndir i wneud cais am swyddi gwag. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n cynrychioli cymdeithas ac sy'n dod â phobl ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau ynghyd i helpu i lywio'r hyn a wnawn a'n ffordd o weithio. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) ac ymgeiswyr anabl.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog Cystadleuol: £23,125
Gwyliau Blynyddol: Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n rhedeg o 1 Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
Pensiwn: Mae'r holl weithwyr yn cael eu hymrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Aelodaeth Campfa: Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.
Gostyngiadau: Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda Future Inns yng Nghaerdydd.
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park: Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).
Rhaglen Cymorth i Weithwy: Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
Gwersi Cymraeg: Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.
Cynllun Arian Meddygol ac Ychwanegiadau at Fy Nghyflog: Mae pob cydweithiwr wedi’i gofrestru’n awtomatig i gynllun arian meddygol o’r enw BHSF ar lefel Arian, y telir amdano gan WNO. Mae hyn yn golygu bod modd i chi hawlio arian yn ôl ar gyfer gofal iechyd arferol a brys mewn perthynas ag ystod o ofal iechyd gan gynnwys gwasanaethau ffisiotherapi, deintyddol, optegol, osteopathi a mwy. Gallwch hefyd gyrchu gwasanaeth Meddyg Teulu a Phresgripsiwn a gwasanaethau iechyd meddwl/cwnsela.
Mae ‘Ychwanegiadau at Fy Nghyflog’ yn cynnig buddion a gostyngiadau ar wariant bob dydd, gan gynnwys diwrnodau hamdden allan, pryniannau i'r cartref, moduro a theithio
Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Os ydych yn dymuno gwneud cais yn Gymraeg, ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na phe byddech yn gwneud cais yn Saesneg.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â heledd.davies@wno.org.uk