Technegydd

Cyflog
£24,294-£25,979
Location
Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Oriau
Full time
Closing date
18.07.2024
Profile picture for user tonge

Postiwyd gan: tonge

Dyddiad: 2 July 2024

Rydyn ni'n recriwtio Technegydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: 37 Oriau 
Math o gontract: Llawn Amser/ Cyfnod Penodol Tan 31-03-2025
Lleoliad: Sefydliad y Glowyr Coed Duon
 
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Theatr a Chelfyddydau ehangach.
 
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £24,294 - £25,979 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.  
  
Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn awyddus i gyflogi Technegydd. Fel aelod o'r tîm technegol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynorthwyo gyda'r gwaith paratoi, gosod a dyletswyddau gweithredol amrywiol mewn perthynas ag amrywiaeth eang o gynyrchiadau a digwyddiadau sy'n cael eu llwyfannu gan gwmnïau proffesiynol ac amatur, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw arferol o ran offer y lleoliad, yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Technegol.

Rydyn ni'n chwilio am dechnegydd aml-fedrus i ymuno a'n tîm technegol a fydd yn ymdrechu i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i holl ddefnyddwyr Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a'r Cyngor. Byddwch chi'n helpu sicrhau bod ein lleoliad yn gweithredu'n llyfn ac yn cyfrannu at amgylchedd gweithio effeithlon a diogel i'r holl staff a chwmnïau sy'n ymweld.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:

  • Cymhwyster cydnabyddedig mewn maes technegol neu gysylltiedig.
  • Gwybodaeth dda am agweddau gweithredol ar lwyfannu theatrig, goleuo, sain, ac offer digidol a chlyweledol.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda hunanhyder a'r gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth eang o gleientiaid ac aelodau o staff.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Robin Bainbridge ar 01495227206  neu ebost: bainbr@caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg.  Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU.  Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk

 am ragor o wybodaeth.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event