Rydyn ni'n recriwtio Technegydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Llawn Amser/ Cyfnod Penodol Tan 31-03-2025
Lleoliad: Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Theatr a Chelfyddydau ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £24,294 - £25,979 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn awyddus i gyflogi Technegydd. Fel aelod o'r tîm technegol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynorthwyo gyda'r gwaith paratoi, gosod a dyletswyddau gweithredol amrywiol mewn perthynas ag amrywiaeth eang o gynyrchiadau a digwyddiadau sy'n cael eu llwyfannu gan gwmnïau proffesiynol ac amatur, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw arferol o ran offer y lleoliad, yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Technegol.
Rydyn ni'n chwilio am dechnegydd aml-fedrus i ymuno a'n tîm technegol a fydd yn ymdrechu i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i holl ddefnyddwyr Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a'r Cyngor. Byddwch chi'n helpu sicrhau bod ein lleoliad yn gweithredu'n llyfn ac yn cyfrannu at amgylchedd gweithio effeithlon a diogel i'r holl staff a chwmnïau sy'n ymweld.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Cymhwyster cydnabyddedig mewn maes technegol neu gysylltiedig.
- Gwybodaeth dda am agweddau gweithredol ar lwyfannu theatrig, goleuo, sain, ac offer digidol a chlyweledol.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda hunanhyder a'r gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth eang o gleientiaid ac aelodau o staff.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Robin Bainbridge ar 01495227206 neu ebost: bainbr@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk
am ragor o wybodaeth.