Ar 3 Tachwedd 2020, daeth Caerdydd Creadigol ynghyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i gyflwyno TEDx Prifysgol Caerdydd eleni - digwyddiad blynyddol a arweinir gan Sean Hoare a Louise Hartrey. Bellach yn ei drydedd flwyddyn, cynulliad lleol yw’r digwyddiad, lle caiff cyflwyniadau a pherfformiadau byw ar ffurf TED gan staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, eu rhannu â'r gymuned.
Cafodd digwyddiad TEDx Prifysgol Caerdydd eleni ei gynnal ar-lein. Roedd yn cynnwys wyth o siaradwyr a aeth i’r afael ag ystod eang o bynciau oedd yn ymwneud â thema eleni: Creadigrwydd: Diwydiant
Fe wnaeth 215 o bobl wylio’r digwyddiad a gyflwynwyd gan Cari Davies o ITV, ac fe wnaeth lawer gyfrannu at drafodaeth fywiog am y cyflwyniadau yn y blwch sgwrsio ar-lein.
Os gwnaethoch fethu’r digwyddiad neu os hoffech wylio’r cyflwyniadau eto, gallwch weld y cyfan ar-lein:
- O’r Gyfraith i (du ôl) y sgrîn fawr: Cwestiynu creadigrwydd – Yassmine Najime, Rheolwr Stiwdio/Cynhyrchydd Painting Practice
- Meddyliau creadigol – Naikena Mutulili, Ysgol y Biowyddorau
- Y darn coll: Creadigrwydd yn y diwydiannau creadigol– Jocelyn Longdon, Sylfaenydd @OnBlackCreative ac @climateincolour
- Creadigrwydd ym maes gofal iechyd: heriau a chyfleoedd – Matthew Roberts, myfyriwr ôl-raddedig Therapi Galwedigaethol
- Cymryd y cam creadigol cyntaf – Alexia Barrett, myfyriwr graddedig diweddar o’r Ysgol Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau
- Fideos ffug ‘deepfakes’: doniol neu fygythiol? – Georgina Harvey, myfyriwr Cyfrifiadureg
- Seiclo, Creadigrwydd, Masnacheiddio ac ysgrifennu yn y tywod yn Cannes – Yr Athro Damian Walford-Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Llwyddodd y digwyddiad i godi £788.90 ar gyfer Theatr y Sherman oedd i fod i gynnal y digwyddiad yn wreiddiol cyn i gyfyngiadau COVID-19 gael eu cyflwyno.
Dilynwch @TEDxCardiffUni i gael gwybod rhagor am ddigwyddiadau blaenorol TEDx Prifysgol Caerdydd yn ogystal â’r rhai i ddod