Ym mhumed rhifyn yr ail gyfres o Get A 'Proper' Job mae'r cyflwynydd Kayleigh Mcleod yn siarad gyda Prateeksha Pathak, ymchwilydd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o gyfranogwyr y cynllun i entrepreneuriaid, Ymlaen! a Claire Parry-Witchell, Mentor Busnes Menter Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd am bwysigrwydd datblygu entrepreneuriaeth i ddyfodol y diwydiannau creadigol.
Mae'r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar sut i ddechrau a datblygu busnes creadigol a gwerth menter ac entrepreneuriaeth.
Ar bwnc entrepreneuriaeth yn ystod y pandemig, dywedodd Claire: "Gan ein bod yn gweithio gyda chysyniadau cynnar iawn a chwmnïau newydd, dros yr haf tyfodd y galw am gymorth ar y cam hwnnw. Rwy'n tybio bod y cyfnod clo wedi cael effaith enfawr ar y myfyrwyr a'r graddedigion, gan feddwl y tu allan i'r bocs am sut y gallen nhw gael syniad am fusnes. Roedd fel pe bai'n gyfnod delfrydol ar gyfer meddwl yn greadigol am fusnes."
Wrth sôn am y gwersi a ddysgwyd ers dechrau ei busnes, dywedodd Prateeksha: "Gofynnwch y cwestiynau os oes gennych chi rai. Mentrwch, aseswch bethau - os nad ydych chi'n gofyn rydych chi'n 100% sicr na chewch chi ganlyniad. Os gofynnwch chi, o leiaf mae'r ganran yna'n lleihau ychydig, hyd yn oed os yw'r cwestiynau'n swnio'n absẃrd i chi."
Recordiwyd y bennod hon o bell o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 ym mis Awst 2020.
Gwrandewch ar y bennod lawn:
iTunes: https://apple.co/3lO9n4D
Spotify: https://spoti.fi/3kReX4O
Dolenni a rhagor o wybodaeth
- Cynllun Ymlaen!
- A Covid-19 boom in student start-ups? - Claire Parry-Witchell
- Cymorth Busnes Cymru
- Rabble Studio
- Coworking Collective
- IPSE
- Archif Kashmir Untold
- Cymru Greadigol
- Wales Arts Review
Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.
Gwrando ar benodau eraill o gyfres gyntaf Get A 'Proper' Job yma.