Mae'r rhaglen digwyddiadau diwylliannol yng Nghaerdydd dros gyfnod yr ŵyl yn dathlu ehangder y creadigrwydd a'r arloesedd sydd gan ein dinas i'w cynnig. Mae pobl greadigol yng Nghaerdydd yn ymwneud â chreu, perfformio, datblygu a chyflwyno'r gyfres gyffrous hon o weithgareddau i ni i gyd eu profi. Gyda digwyddiadau ar gyfer pob oedran a diddordeb, gobeithiwn y byddwch yn mwynhau Nadolig creadigol yng Nghaerdydd eleni.
Dyma rai o’r digwyddiadau Nadoligaidd y mae tîm Caerdydd Creadigol wedi mynychu ac ymgysylltu â nhw dros yr ychydig wythnosau diwethaf, dim ond blas o’r arlwy creadigol llawn yn y ddinas:
Nadolig ym Mharc Bute
Mae llwybr golau eiconig Parc Bute wedi dychwelyd, gyda gosodiadau a cherddoriaeth newydd wedi'u cyfansoddi gan fyfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'r llwybr 1.4km hwn yn addas ar gyfer pob oedran ac mae ar agor drwy gydol mis Rhagfyr. Rhagor o wybodaeth.
Nadolig yn y Sherman
Mae cynyrchiadau Nadolig Theatr y Sherman eleni yn cynnwys Tales of the Brothers Grimm, wedi'i ysbrydoli gan ein hoff chwedlau ac yn addas ar gyfer plant o leiaf 7 oed, a Goldilocks (Saesneg) neu Elen Benfelen (Cymraeg), sy'n addas ar gyfer plant rhwng 3 a 6 oed. Mae'r ddwy sioe yn cael eu perfformio tan 31 Rhagfyr.
Marchnad Nadolig Snapped Up
Mae Marchnad Snapped Up flynyddol PrintHaus yn digwydd 10 - 11 Rhagfyr yn Chapter. Bydd y farchnad yn cynnwys stondinau gan wneuthurwyr a busnesau lleol, yn ogystal â chynnig amrywiaeth o weithgareddau ymarferol fel argraffu crys-t a bagiau tote ac argraffu llythrennau. Rhagor o wybodaeth.
Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd
Mae Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd yn atyniad adloniant newydd, gyda sioeau'n cael eu perfformio yn y Spiegeltent unigryw, lleoliad cabaret 570 sedd. Mae Santa's Wish yn brofiad cerddorol Nadoligaidd am ddod o hyd i Siôn Corn ar ôl ei ddamweiniau sled, sy'n addas ar gyfer pob oedran. Mae Castellana yn ddigwyddiad bwrlesg, comedi a chabaret sy'n cynnig noson Nadolig unigryw.
The Lion, The B!tch and the Wardrobe
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn dod â sioe Nadolig amgen arall i ni yn Stiwdio Weston eleni. Mae The Lion, The B!tch and the Wardrobe yn cynnwys drag, bwrlesg a cherddoriaeth, dan arweiniad Polly Amorous o Gaerdydd. Rhagor o wybodaeth am y cynhyrchiad.
Llwybr Gaeaf Mawr yr Amgueddfa
Mae Amgueddfa Cymru yn cynnal Llwybr Gaeaf Mawr ar sawl safle ledled Cymru, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r llwybrau'n ddwyieithog ac yn addas ar gyfer plant 4+ oed, rhagor o wybodaeth.
Nadolig yn yr Eglwys Norwyaidd
Yn dilyn eu digwyddiad Gŵyl Goleuni a Chyfeillgarwch ar 4 Rhagfyr, mae'r Eglwys Norwyaidd wedi ailagor eu Siop Anrhegion Oriel gydag eitemau gan artistiaid a gwneuthurwyr, mewn pryd ar gyfer pryniannau Nadolig. Maent hefyd yn cynnal digwyddiad Nadolig gyda Gwawr Edwards ar 16 Rhagfyr, dysgwch fwy.