Menter newydd CULTVR LAB yn agor ei ddrysau am y tro cyntaf

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 21 November 2019

Bydd CULTVR LAB, menter newydd ac ychwanegiad cyffrous i arlwy ddiwylliannol Caerdydd, yn agor ei ddrysau am y tro cyntaf ar gyfer parti lansio arbennig. Y noson ganlynol fe fyddwn yn cyflwyno’r perfformiad ymdrochol cyntaf yn y ganolfan newydd, sef Juniper.   

 

Mae stiwdio greadigol arloesol 4Pi Productions yn agor canolfan labordy unigryw yng Nghaerdydd i hybu gwaith ymchwil a datblygu a chyflwyno profiadau ymdrochol cyfunol. Mae menter CULTVR LAB yn ffrwyth deg mlynedd o brofiad ac arbenigedd 4Pi yn y sector ymdrochol. Mae’n brosiect hollol annibynnol ac yn ychwanegiad unigryw i fywyd diwylliannol Caerdydd.

Ddydd Iau 21 Tachwedd mae CULTVR LAB yn agor ei ddrysau ac yn gwahodd y cyhoedd i barti lansio am ddim a fydd yn gyfle i weld a phrofi’r gofod newydd hynod yma. Nos Wener 22 Tachwedd byddwn yn cyflwyno Juniper – jazz byw a delweddau ymdrochol yn cydblethu ar y sgrin fwyaf a welwyd yng Nghymru – lle bydd Slowly Rolling Camera yn perfformio eu trydydd albwm o’i dechrau i’w diwedd i gyfeiliant sgôr weledol ymdrochol a grewyd gan 4Pi.

CULTVR LAB fydd y ganolfan gyntaf o’i math yn Ewrop i ganolbwyntio’n unswydd ar gyflwyno profiadau rhithwir cyfunol a bydd lle i gynulleidfaoedd o rhwng 100 – 400 o bobl dan do’r ganolfan newydd. Bydd hefyd yn gyrchfan i bob math o bobl greadigol wrth ddarparu amodau ac adnoddau i gynhyrchwyr, technolegwyr, gwneuthurwyr ffilm a theatr, artistiaid, ysgolheigion a pherfformwyr i ddod at ei gilydd i archwilio holl rychwant posibiliadau’r cyfrwng unigryw yma.

‘Rydyn ni’n credu mai strwythurau cryndo (domes) fydd yr amgylcheddau delfrydol ar gyfer creu perfformiadau byw yn y dyfodol, ac mae creu’r cyfle yma i arloesi gyda’r cyfrwng ar y llwyfan rhyngwladol yn brofiad cyffrous iawn. Hyd yma, rydyn ni wedi gorfod teithio dramor i greu a chyflwyno ein cynhyrchiadau ymdrochol. Wrth lansio CULTVR LAB rydyn ni’n gobeithio y bydd y diwydiannau creadigol yn elwa o’r fenter ac yn manteisio ar y platfform i ddysgu, creu, rhannu ac arloesi yn y croestoriad yma rhwng y digidol a’r diriaethol’. Janire Najera, Cyfarwyddwr Creadigol 4Pi Productions.

Bydd y noson agoriadol yn gyfle i brofi platfform y Dôm Dawns sydd newydd ddychwelyd i Gaerdydd wedi cyfnod yn Hong Kong. Byddwn yn defnyddio’r dôm 40tr i’w eithaf gyda gwledd o ddelweddau symudol i gyfeiliant set DJ. Hefyd, bydd teithiau tywys i gyflwyno ein cwmnïau preswyl, United Filmdom a Ctrl Alt Design, arddangosfa Celf Feinil gan Bubblewrap, arddangosfa ffotospheraidd gan Matt Wright a Lab VR/AR byw. Byddwn hefyd yn cyhoeddi rhai o fanylion ein rhaglen o breswyliadau artistig a datgelu gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill. Bydd bwyd stryd lleol ar gael yn ogystal â bar dan ofal bragdy Pipes. Mae drws agored a chroeso cynnes i BAWB – dewch draw gyda’ch ffrindiau a’ch cyfoedion am noson ardderchog yn ein canolfan newydd.

Nos Wener 22 Tachwedd bydd grŵfs jazz, trip-hop a seinluniau sinemataidd ‘Juniper’ yn hudo a chario’r gynulleidfa drwy amrywiaeth ryfeddol o amgylchfydoedd diffaith a phrysur a ffilmiwyd ledled y byd. Mae Juniper’ yn archwilio sut y gall sain a delweddau symudol gydblethu mewn perfformiad byw. Cafodd ei gomisiynu’n wreiddiol gan Ffotogallery a’i berfformio am y tro cyntaf yn Diffusion 2019: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd.

JUNIPER - 4Pi PRODUCTIONS & SLOWLY ROLLING CAMERA from 4Pi Productions on Vimeo.

MANYLION ALLWEDDOL:


CULTVR LAB
327 Heol Penarth, CF11 8TT
Caerdydd, Cymru, y D.U.

www.cultvr.cymru

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event