Get A 'Proper' Job pennod #3 - Creadigrwydd a Lles

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 21 February 2020

I weithwyr creadigol sy’n peoni am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

Ym mhennod tri, rydyn ni’n clywed gan yr Athro Gareth Loudon, athro Creadigrwydd yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd sy’n siarad am y cysylltiadau rhwng creadigrwydd a lles. Gallwch ddarllen rhagor ynglŷn â sut mae pwrpas yn cysylltu creadigrwydd a lles.

Yna, rydyn ni’n trafod hyn gyda’r sgriptiwr a nofelydd Matthew Hall, a ysgrifennodd Keeping Faith, a’r artist Katherine Sheers.   

Meddai Matthew: “Byddai’n gelwydd dweud bod byd teledu’n heddychlon mewn unrhyw ffordd, o bell fordd – mae’n frenetic, yn ddirdynnol ac yn gofyn am greadigrwydd dan lawer o bwysau ond mae’n ddiddorol bod rhywun yn teimlo cymhelliant i barhau yn y byd hynny er hyn oll… nid yw’r broses o greu yn un hapus o reidrwydd.” 

Meddai Katherine: “Caiff fy lles, neu fy niffyg lles ar adegau, ei adlewyrchu yn y gwaith dwi’n creu. Nid yw’n bosib gwahanu un o’r llall.”

Gwrandewch ar y bennod lawn:

Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.

Gwrandewch ar bennodau eraill o Get A ‘Proper’ Job #1. The Rise of the Influencers a #2. No Funny Business.