Rydym yn gwahodd artistiaid 18 oed a throsodd i wneud cais i gyflwyno gwaith celf effaith uchel fel rhan o fenter celf gyhoeddus uchelgeisiol Artichoke.
Wedi’i chynhyrchu gan Artichoke a’i chreu mewn cydweithrediad â’r Cyfarwyddwr Creadigol Martin Firrell, mae’r fenter hon yn cael ei chefnogi gan y diwydiant Allan o’r Cartref*.
Mae The Gallery yn fath newydd o sefydliad diwylliannol heb waliau sy'n herio modelau traddodiadol o edrych at gelf. Bob tymor rydym yn gwahodd artistiaid i ymateb i destunau a chwestiynau pwysig ein hoes. Nod y prosiect yw ysgogi trafodaeth ystyrlon a dechrau sgwrs genedlaethol trwy gelf.
Bydd gweithiau celf dethol yn cael eu hatgynhyrchu ar raddfa a’u harddangos i filiynau eu gweld mewn mannau cyhoeddus ar draws pedair cenedl Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, fel rhan o drydydd tymor The Gallery, sy’n lansio Medi 2023.
Rhaid i gyflwyniadau fod yn gynigion ar gyfer gweithiau statig dau ddimensiwn mewn unrhyw gyfrwng. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: ffotograffiaeth, paentio, lluniadu, gwaith testun, printiau, cyfryngau cymysg a chollage.
Ar gyfer pob arddangosfa, bydd 10 artist yn cael eu dewis i gyflwyno gwaith celf sy'n procio'r ymennydd mewn ymateb i thema benodol, a fwriedir i annog trafodaeth gyhoeddus am hunaniaeth, cymdeithas a diwylliant.
*Mae'r term Allan o'r Cartref yn cyfeirio at unrhyw gyfrwng hysbysebu gweledol a geir y tu allan i'r cartref, gan gynnwys hysbysfyrddau ar y stryd, sgriniau digidol, llochesi aros bysiau a gorsafoedd trên.
Bydd artistiaid yn cael eu cefnogi i ddatblygu ac addasu eu gwaith ar gyfer cyflwyniad awyr agored. Byddant hefyd yn derbyn mentora a chyngor parhaus yn ystod y broses.
Mae pob artist yn derbyn:
• Ffi o £2,000
• Cefnogaeth gan y Cyfarwyddwr Creadigol Martin Firrell
• Cefnogaeth gan Guradur Gwadd ein harddangosfa, Bakul Patki
• Llwyfan rhyngwladol i arddangos gwaith gan gynnwys trwy'r wefan bwrpasol yn thegallery.org.uk
• Gwasanaethau dylunydd i fformatio'r gwaith celf ar gyfer arddangos digidol ac argraffu os oes angen
• Costau cynhyrchu, gosod, a phrydlesu'r mannau hysbysebu 6
• Dogfennaeth ffotograffig ddethol o'r gwaith celf a arddangosir yn yr awyr agored
• Cyfarfodydd ar-lein wedi'u hamserlennu gyda chyd-artistiaid a thîm sy'n cyfrannu
• Cymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein ynghylch gwneud celf i'r cyhoedd
• Gwahoddiad i lansio'r arddangosfa ym Medi 2023. Os yw wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig, bydd costau teithio safonol a llety un noson yn cael eu cynnwys. Ar gyfer artistiaid sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig, cynhwysir costau teithio o £200 tuag at unrhyw/holl gostau teithio, gan gynnwys ffioedd fisa a llety un noson.
• I'r rhai sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig, bydd Artichoke yn archwilio i ddulliau cymorth ychwanegol tuag at gostau teithio lle bo modd (e.e. gan Lysgenadaethau, Ymddiriedolaethau a Sefydliadau).
Cymhwysedd Mae'r alwad yn agored i bob ymarferwr 18+ oed, sy'n gweithio ar unrhyw lefel, gan gynnwys myfyrwyr. Gall artistiaid fod wedi'u lleoli unrhyw le yn y byd.
Mae'r fenter hon yn bodoli i hyrwyddo gweithiau celf arloesol gan artistiaid ar unrhyw gam o'u hymarfer. Mae ceisiadau cydweithredol fel grŵp neu gasgliad yn gymwys (mae’r ffi yn parhau i fod yn £2,000).