Gŵyl y Llais Canolfan Mileniwm Cymru bellach yn flynyddol

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 20 February 2020

Bydd Gŵyl y Llais – gŵyl gelfyddydau rhyngwladol arbennig Canolfan Mileniwm Cymru – yn dychwelyd i Fae Caerdydd ar benwythnos olaf mis Hydref 2020 gyda fformat newydd.

Am bedwar diwrnod, bydd cynulleidfaoedd yn cael mwynhau gwledd o berfformiadau a digwyddiadau yn arddangos popeth y gall y llais ei wneud, a pha mor bwysig yw cael un. Bydd ganddynt y dewis o brynu bandiau garddwrn ar gyfer un diwrnod yn unig neu ar gyfer yr ŵyl gyfan, fydd yn rhoi mynediad i dros 60 o berfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a Portland House, sydd o fewn ychydig funudau ar droed oddi wrth ei gilydd.

Bydd Cate Le Bon yn ymuno â’r ŵyl eleni fel perfformiwr ac fel curadur gwadd ar gyfer rhan o’r rhaglen – a bydd yn dod â detholiad eclectig o leisiau o bob rhan o’r byd gyda hi.

Mae’r perfformiadau – cyhoeddir rhestr lawn ohonynt yn yr haf – yn cynnwys cerddoriaeth fyw anhygoel, perfformiadau fydd yn procio’r meddwl, a sgyrsiau ysbrydoledig, gan drochi’r gynulleidfa mewn corws byd-eang o leisiau.

Mae’r cyhoeddiad ddoe yn nodi newid sylweddol i’r ŵyl, sydd wedi ei chynnal bob dwy flynedd ers ei lansio yn 2016. Mae digwyddiadau yn y gorffennol wedi arddangos rhai o leisiau mwyaf nodedig y byd o bob rhan o’r sbectrwm cerddorol, gan gynnwys Patti Smith, Van Morrison, Femi Kuti, Laura Marling, Candi Staton, Elvis Costello, Hugh Masekela, Rufus Wainwright, Fatoumata Diawara, John Grant ac Angélique Kidjo.

Wrth galon yr ŵyl mae yna bob amser gydweithrediadau un-tro sy’n cyfuno lleisiau a genres. Yn 2016, cafodd cynulleidfaoedd gyfle i fwynhau noson unigryw lle roedd John Cale, aelod o The Velvet Underground, yn rhannu’r llwyfan gyda Charlotte Church a’r actor Michael Sheen. Ac yn 2018, cyflwynodd Gruff Rhys berfformiad cyntaf ei albwm Babelsberg ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, i gyfeiliant 72 aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Wrth gyhoeddi gŵyl eleni ar ei newydd wedd, dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: “Rydym wrth ein boddau fod Gŵyl y Llais, o eleni ymlaen, yn dod yn ganolbwynt rhyngwladol yng nghalendr blynyddol, ac yn ymrwymiad Caerdydd i roi cerddoriaeth wrth galon datblygiad y brifddinas. Mae Gŵyl y Llais yn llawer mwy na gŵyl gerddoriaeth; mae’n archwiliad o’r hyn y gall y llais wneud a pha mor bwysig yw hi i gael un. Mynnwch docyn nawr ac ymunwch a ni ym mis Hydref – mae’n addo bod yn benwythnos hir bythgofiadwy.”

Dywedodd Cate le Bon, y curadur gwadd: “Mae’n wirioneddol fraint i guradu rhan fach o’r ŵyl anhygoel yma. Mae’n annog curaduron i daflu’r rhwyd yn bell a dod â lleisiau ystyrlon i ddinas Caerdydd. Mae’n beth hyfryd i roi sylw i leisiau sy’n dod â llawenydd, sy’n arwain, yn ysbrydoli, yn herio, yn lleddfu ac yn ein huno ni tra bod rhaniad gwleidyddol a digysylltiad yn cael eu hannog.”

Mae’r bandiau garddwrn penwythnos Cyntaf i’r Felin ar gyfer Gŵyl y Llais 2020 ar werth yn wmc.org.uk/llais

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event