Mae Cyfarwyddwr Caerdydd Creadigol, Sara Pepper, wedi ei chydnabod yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines am ei gwasanaethau i'r economi greadigol.
Dechreuodd Sara ei swydd yn Gyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2014, yn dilyn swyddi cynhyrchu creadigol yng Nghanolfan Southbank, y BBC, Canolfan Mileniwm Cymru a Gemau Olympaidd Sydney 2000. Ym mis Hydref 2015, yn dilyn ymgynghori helaeth gyda'r gymuned greadigol, lansiodd rwydwaith Caerdydd Creadigol sydd bellach yn cynnwys yn agos at 4000 o aelodau. Yn 2018 daeth hefyd yn Brif Swyddog Gweithrediadau rhaglen arloesi'r sector sgrin yn Ne Cymru, Clwstwr.
Mae gan Sara angerdd dros hyrwyddo a datblygu talentau a syniadau newydd a meithrin partneriaethau sy'n galluogi unigolion a sefydliadau i wireddu eu potensial creadigol a masnachol yn llawn.
Meddai Sara: “Mae’n anrhydedd derbyn OBE am wasanaethau i’r economi greadigol. Mae'n gydnabyddiaeth gadarnhaol iawn o'r rôl hanfodol y mae'r economi greadigol yn ei chwarae yng Nghymru a ledled y DU, ar hyn o bryd ac wrth symud ymlaen.
“Mae’n tystio i sector creadigol sy’n esblygu’n barhaus yn y rhanbarth ac i sgiliau, arbenigedd ac ymrwymiad cydweithwyr yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael gweithio gyda nhw.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r gwaith hwn i ymhelaethu, galluogi ac eiriol dros yr economi greadigol a'r rhai sydd, fel fi, yn ymdrechu i gael sector creadigol a diwylliannol arloesol yng Nghymru. Gyda'n gilydd rydyn ni wedi dod â'r gwaith yn fyw ac rwy'n ddiolchgar am eu cefnogaeth, eu gweledigaeth a'u brwdfrydedd parhaus.
"Rwyf i wastad wedi credu yng ngrym creadigrwydd ac mae hyrwyddo'r economi greadigol, a'r cyfan a ddaw yn ei sgil, yn y rhan hon o'r byd yn un o freintiau mawr fy mywyd.”
Dywedodd yr Athro Justin Lewis, cyd-sylfaenydd Caerdydd Creadigol: “Byth ers ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol, mae Sara wedi bod yn bwerdy o ynni a symbyliad. Hi yw'r math gorau o ysgogwr, yn gwneud i bethau ddigwydd, gan ddod â phobl eraill gyda hi, a'r cyfan gyda charedigrwydd a chydymdeimlad bob amser. Mae wedi bod yn bleser llwyr cael gweithio gyda hi, ac rwyf i wrth fy modd yn ei gweld yn cael cydnabyddiaeth am ei chyfraniad gwych."
Gallwch ddarllen beth mae Sara yn ei feddwl am bwysigrwydd adrodd stori Caerdydd fel prifddinas greadigol yma.