Mae'n cael ei ariannu gan gronfa Llais y Lle Cyngor Celfyddydau Cymru a'i gefnogi gan Common Wealth.
“Rydw i wedi gweithio ym myd y celfyddydau ers dros 15 mlynedd. Mae gen i ddiddordeb mewn sut mae dosbarth yn cael ei gynrychioli a sut gall y celfyddydau fod yn fwy hygyrch, a chael eu harwain a'u creu gyda phobl dosbarth gweithiol,” eglura Rhiannon.
“Roeddwn i am i ni archwilio beth allai ei olygu i rywun di-Gymraeg fel fi gydweithio â siaradwr Cymraeg fel Ffion." Mae'r ddau artist yn dod o ystadau tai cyngor (Rhiannon o Laneirwg yng Nghaerdydd a Ffion o Fethesda yng Ngwynedd). Ond oherwydd daearyddiaeth, gwleidyddiaeth a demograffeg eu dwy ystâd, cafodd Rhiannon a Ffion brofiadau hollol wahanol o ddysgu Cymraeg. Mae bron pob un o’u profiadau eraill yn adlais o’i gilydd, ond roedd eu mynediad at y Gymraeg – neu ddiffyg mynediad – yn fater o fod yn y lleoliad cywir adeg eu geni.
“Yng Nghaerdydd, ces i fy magu heb deimlo’n arbennig o falch o le des i, am amser hir roeddwn i'n teimlo rhywfaint o gywilydd,” eglura Rhiannon. Roeddwn i'n dod o ystâd tai cyngor ag enw gwael, sy'n adnabyddus am ei nodweddion drwg yn unig. Doedd yr ysgol roeddwn i'n mynd iddi ddim yn dda iawn, a doedd ganddi hi ddim yr adnoddau na'r gallu i'n haddysgu'n dda. Doeddwn i ddim yn cymryd gwersi Cymraeg o ddifrif, ac yn aml roedd yr athro neu'r athrawes yn absennol. Pe bawn i'n gwybod bryd hynny y gallai dysgu Cymraeg fod o fudd i mi drwy gydol fy mywyd byddwn i wedi brwydro drosto. Pe bawn i wedi dysgu hanes diwylliant Cymraeg, pa mor bwerus oedd yr ymgyrchoedd a'r gweithredu y tu ôl i'r iaith, byddwn i wedi brwydro drosto.
“Mewn llefydd yn ne Cymru, fel lle ges i fy magu, mae yna elfen ddosbarth yn aml yn gysylltiedig â siarad Cymraeg, ac mae'n cael ei weld yn rhywbeth dosbarth canol, mwy gwyn a llai amlhiliol. Mae risg bod hyn yn dod yn un o’r ffactorau sy'n rhwystro pobl rhag cael mynediad at yr iaith. Roedden ni am i’r prosiect hwn herio hyn, a bod yn rhan o broses o ail-lunio iaith mewn ffordd ddyfeisgar a chynaliadwy i gymunedau o hyn ymlaen. Gweld y Gymraeg fel adnodd o ran hunaniaeth, ymdeimlad o berthyn, ymdeimlad o hanes – yn hytrach na chael teimlad o fod ar y cyrion.”
Mae gan y prosiect bedwar cam. Yn y cam cyntaf, yn gynnar yn 2023 cynhaliodd Rhiannon a Ffion gyfweliadau ag amrywiaeth eang o bobl yn nwyrain Caerdydd a Bethesda am eu profiadau o’r Gymraeg, hunaniaeth a dosbarth.
“Yng Nghaerdydd, roedd y rhai nad oedd yn gallu siarad Cymraeg yn arbennig o awyddus i’w dysgu, ac roedd gwir deimlad o gywilydd am beidio bod yn ymwybodol o’r ymgyrchu a’r rhesymau y tu ôl iddo,” cofia Ffion. “Y peth arall sylwon ni oedd bod pobl yn wirioneddol ddyfeisgar gydag iaith, yn ymgorffori geiriau Cymraeg mewn geiriau Arabeg er enghraifft, yn ei defnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd ac yn creu eu fersiwn eu hunain ohoni. Mae ganddyn nhw synnwyr digrifwch ac ymdeimlad o berchnogaeth mewn perthynas â'r iaith.
Cafodd Rhiannon ei syfrdanu'n fawr gan y cyfweliadau ym Methesda. “Roedd y profiad yng ngogledd Cymru yn un dwfn ac emosiynol iawn,” meddai. “Roeddwn i'n teimlo fel ‘o dyma fe, dyma’r Gymru go iawn’. Rwy’n teimlo’n anghyfforddus hyd yn oed yn dweud hynny – ond roedd y dirwedd, yr iaith, harddwch yr holl beth wedi fy syfrdanu.”
Yna, yn hydref 2023, cynhaliwyd pedwar gweithdy rhad ac am ddim gan rai o hoff artistiaid Rhiannion a Ffion, gan archwilio themâu o’r ymchwil.
Cynhaliwyd y cyntaf ym mis Medi, mewn sawl lleoliad ym Merthyr. Cafodd ei arwain gan yr artist gweledol Jon Pountney a fu’n cydweithio â’r hanesydd Chris Parry i greu gweithdy yn archwilio hunaniaeth Gymreig, tirwedd a’n perthynas â gorffennol radical, ôl-ddiwydiannol Cymru.
Cynhaliwyd yr ail weithdy ym mis Tachwedd yn Nhredegar; gweithdy ysgrifennu wedi'i arwain gan y dramodydd a’r bardd Patrick Jones, wedi'i hybu gan yr awyrgylch o wrthryfel, dadlau a barddoniaeth yn y dref.
Roedd y trydydd dan arweiniad yr artist Bedwyr Williams, a chafodd ei gynnal yn Llaneirwg ym mis Tachwedd.
“Fe wnaethon ni edrych ar ein perthynas unigol â’r Gymraeg a Chymreictod, ac yna edrych ar bethau oedd yn ein gwylltio ni am y byd,” meddai Rhiannon. “Roedd cael rhywun yn dod lawr o ogledd Cymru ac yn egluro ei brofiadau yn anhygoel. Fe ddangosodd i mi fod gennym ni brinder go iawn o regfeydd yn y de!”
Cafodd y gweithdy olaf, yn Butetown, Caerdydd, ei arwain gan yr awdur a'r hwylusydd Taylor Edmonds a'r ymgyrchydd Sarah Bowen. “Fe wnaethon ni edrych ar sut mae straeon dosbarth gweithiol yng Nghaerdydd yn cael eu hanwybyddu, a chyd-destun plismona; y naratif sydd ddim yn aml yn mynd o blaid y gymuned,” eglura Rhiannon. “Os mae rhywbeth drwg yn digwydd ym Mae Caerdydd, mae’r cyfryngau’n dweud ei fod wedi digwydd yn Butetown. Felly mae’n bwysig iawn edrych ar sut rydyn ni’n adrodd ein straeon dosbarth gweithiol.”
Cynhaliwyd y trydydd cam – cam Cydweithio eu prosiect – ym Methesda gan ddod ag artistiaid a chyfranogwyr ynghyd o’r de i’r gogledd. Gan weithio gydag artistiaid fel Rhys Trimble, Bedwyr Williams, Thaer Al-Shayei, Ali Goolyad, Gavin Porter a Gwen Sion bu’r cyfranogwyr yn archwilio ein hawl i iaith, rhagdybiaethau a stereoteipiau, a sut mae iaith yn effeithio ar ein bywydau. Bu'r grŵp yn arbrofi gyda gwneud datganiad iaith mewn gofod cyhoeddus; parc, cwrt tennis, yn edrych dros y mynyddoedd, hyd yn oed mewn isffordd rhwng tai. Yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Wrth esbonio’r pedwerydd cam, sef y cam olaf, a fydd yn cael ei gadarnhau yn y misoedd nesaf, dywedodd Rhiannon:
Ein nod yw creu rhywbeth sy’n adrodd y straeon hyn, sy’n gallu cael ei berfformio mewn man cyhoeddus ac sy’n benthyg o ddiwylliant Cymreig (diwylliant cynulleidfaol, diwylliant eisteddfodol). Bydd yn ddarn cyffredinol o gelfyddyd perfformio a allai ddigwydd mewn unrhyw wlad sydd ag iaith frodorol, wedi’i gwneud o Gymru, gyda chariad.