Dinas Cerdd: Pink yn dod i Gaerdydd!

Mae haf gwych o ddigwyddiadau cerddoriaeth enwog yn y ddinas yn parhau'r wythnos hon gyda Charnifal Haf P!NK yn Stadiwm Principality.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 6 June 2024

Gyda dros ugain o brif berfformwyr yn paratoi i berfformio yng Nghaerdydd yr haf hwn, ochr yn ochr â lein-yp llawn yn lleoliadau annibynnol y ddinas a Gŵyl Gerdd Dinas Gaerdydd yn yr hydref, efallai mai 2024 fydd blwyddyn fwyaf Caerdydd ar gyfer cerddoriaeth hyd yn hyn.

I ddathlu, byddwn yn tynnu sylw at rhai o straeon y flwyddyn lwyddiannus hon ar gyfer perfformiadau byw yn y ddinas drwy siarad â’r cefnogwyr, y bandiau a’r dalent du ôl i’r llenni am yr hyn sy’n gwneud Caerdydd yn lle mor arbennig ar gyfer cerddoriaeth fyw. 

Ar gyfer ein herthygl ddiweddaraf, rydyn ni'n siarad â'r superfan P!NK, Hayley o Gaerdydd, am weld ei hoff artist yn perfformio yn y ddinas!

Hayley, pryd wnaethoch chi ddod yn gefnogwr mor fawr o Pink? 

Mi ddois yn ymwybodol o Pink am y tro cyntaf wrth wylio'r fideo 'Lady Marmalade' ar gyfer Moulin Rouge yn 2001. Roedd gallu lleisiol anhygoel Pink yn sefyll allan i mi ar y trac hwn ar unwaith, er ei bod yn un o lawer o gantorion dawnus a ymddangosodd fel rhan o'r gân.

Ar ôl hyn, penderfynais wneud ychydig o ymchwil a darganfod bod ganddi albwm allan 'Can't Take Me Home'. Tyfodd fy nghariad at Pink yn fawr (ac mae'n parhau i dyfu) ar ôl ei hail albwm (Missundaztood ). Erbyn yr albwm hwn, roedd ei llais wedi esblygu ac roedd gan ei chaneuon fwy o ystyr a neges ehangach.

Erbyn hyn, mae gen i 2 datŵ ohoni hi a wal o enwogrwydd yn fy nhŷ sy’n dal i dyfu o’i holl cds fel memorabilia mewn gwrogaeth iddi!

Hayley at a gig

Sawl cyngerdd Pink ydych chi wedi bod iddo?

Cyngerdd Caerdydd fydd fy 12fed tro! Pob un ohonynt yn y DU, yn anffodus nid wyf erioed wedi cael y cyfle i fynd dramor i'w gweld. 

Fe wnaeth ei gig cyntaf yn Arena Ryngwladol Caerdydd yn 2006 fy nghyfareddu fi, wrth iddi berfformio ar lwyfan bach (ddim yn debyg i'w llwyfannau mawr nawr) ar Harley Davidson. 

Yn 2010, gwelais hi yn chwarae ei stadiwm gyntaf yn y DU yn Abertawe ar gyfer ei thaith "Funhouse", yng nghwmni fy mam 68 oed ar y pryd a oedd yn dyst i sioe 2 awr o adloniant ysblennydd o'r dechrau i'r diwedd! Gallaf ddweud yn saff bod mam yn gefnogwr Pink enfawr! Yn 2019, roedd hi yng Nghaerdydd, a nawr yn 2024, dwi'n gweld Pink eto yng Nghaerdydd. Dyma nawr yw trydydd cyngerdd Pink fy Mam, yn 82 oed!

Beth sydd mor arbennig am sioe Pink?

Mae Pink nid yn unig yn gantores, ond mae hi’n ddiddanwr. Nid dim ond sefyll ar y llwyfan a chanu y mae hi. Rwyf wedi gweld Pink yn neidio bynji oddi ar graen i'r llwyfan, mewn pêl bochdew maint oedolyn yn rholio o amgylch y llwyfan, ac yn hedfan o amgylch y lleoliadau ar wifren wib. Mae'n ‘roller coaster’ di-stop!

Mae gallu Pink fel gymnastwr yn caniatáu iddi roi sioe ymlaen ar gyfer pob math o oedran, boed yn ifanc neu’n hen, gan berfformio traciau newydd a chyfarwydd. Mae Pink yn rhyngweithio â'i thorf yn emosiynol ac yn bersonol, ac mae ei hempathi yn disgleirio drwodd yn ei phersonoliaeth. 

Mae ei sioeau yn ddim ond bwndel 2-awr o lawenydd a chyffro sy’n eich denu i mewn ac yn gwneud i chi feddwl!

Hayley at a gig

Beth sy'n wahanol am weld Pink yma yng Nghaerdydd? 

Rwy'n gweithio i gwmni rheoli torf ac wedi gwneud hynny ers 18 mlynedd. Rydyn ni'n gofalu am rai lleoliadau, ac mae rhai ohonyn nhw'n cynnal sioeau Pink. Rwyf wedi bod i Hyde Park Llundain ac Arena Manceinion ychydig o weithiau, ond nid ydynt yn cymharu â Chaerdydd. Mae Caerdydd yn ddinas wych i groesawu a gweld Pink. Nid yn unig mae'r stadiwm reit yng nghanol y ddinas ac yn hawdd teithio iddo gyda threnau ac ati, mae'r awyrgylch yma hefyd yn drydanol. Er enghraifft, wrth wylio'r Rygbi, mae'r awyrgylch yn eich tynnu chi’i mewn. Mae’r prysurdeb cyn ac ar ôl y sioe yn llawn bwrlwm, gyda bwyd a bariau gwych ar garreg eich drws. 

Hayley at a gig

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl mynd i'r sioe? 

Ni chewch eich siomi! Rwyf fi fy hun wedi rhoi troedigaeth i lawer o bobl oedd ddim yn gefnogwyr Pink, cydweithwyr a ffrindiau teulu. Bob tro mae pobl sydd ddim yn gefnogwyr Pink yn mynd i'w gweld hi mewn cyngerdd, maen nhw 100% eisiau mynd eto dro ar ôl tro.

Mae e yn brofiad - yn llawn golygfeydd hudolus ac egnïol, wedi'i osod gyda cherddoriaeth anhygoel. 

Mae Pink yn teithio'r byd i gyd, felly mae cyfnod hir o amser rhwng teithiau bob amser. Os cewch gyfle i fynd, dylech neidio arno!

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event