Mae gwledd o fiwsig a chynnwys Cymraeg wedi'i gyhoeddi ar gyfer chweched Dydd Miwsig Cymru, gan gynnwys setiau acwstig a DJ, a chyfweliad arbennig gyda'r actor Hollywood, Rhys Ifans, am y miwsig Cymraeg wnaeth siapio ei fywyd.
Mae Dydd Miwsig Cymru (dydd Gwener 5 Chwefror 2021) yn dathlu pob ffurf ar fiwsig Cymraeg, o indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica i hip hop, a phopeth yn y canol. Gyda'r byd yn brwydro pandemig y coronafeirws, a ffans miwsig yn methu mynd i berfformiadau byw, mae dathliadau Dydd Miwsig Cymru yn symud ar-lein gyda gigs, fideos a thraciau'n cael eu lansio ar AM, sef gwefan miwsig a diwylliant Cymraeg.
HMS Morris fydd yn dechrau'r dydd am 2yp gyda set o CULTVR LAB, a bydd modd i ffans miwsig fwynhau synau electronig, dawns ac R&B y gantores-gyfansoddwraig Eädyth am 4yp. O Theatr Ffwrnes yn Llanelli, bydd set Eädyth yn cynnwys perfformiad cyntaf o'i sengl newydd, Dreaming / Breuddwydio.
Am 7yh, bydd sgwrs awr o hyd rhwng Rhys Ifans a chyflwynydd y BBC Huw Stephens yn cael ei darlledu ar AM, lle bydd yr actor yn diolch i'r cyfnod clo am roi amser iddo "ailddarganfod agosatrwydd at fiwsig Cymraeg" roedd e wedi anghofio amdano. Mae Rhys a Huw yn rhannu eu hoff adegau personol gyda miwsig Cymraeg, o gyflwyno ffrindiau pync-roc Gwyddelig i Datblygu, i gig Super Furry Animals ym Mhontypridd yn 1995 a chwrdd â Howard Marks yn annisgwyl, cyn i Rhys ei chwarae mewn addasiad ffilm o'i fywyd, Mr Nice.
O 8pm ymlaen yn Stiwdio Sain yn Llandwrog, bydd Osian Huw Williams o'r band roc Candelas, Lewys Williams o grŵp indi yr Eira, a'r gantores Mared Williams oll yn perfformio setiau acwstig. Yn cloi dathliadau Dydd Miwsig Cymru bydd set DJ gan y ddeuawd electronig o Aberystwyth, Roughion, am 9yh.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn dechrau am 2yp ac yn para tan 10yh, ond bydd gan AM gynnwys ar gael drwy'r dydd hefyd, gyda pherfformiadau gan Alffa, Gwilym a Mellt.
Mae Dydd Miwsig Cymru yn rhan o weledigaeth hirdymor i weld miliwn o bobl yn siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg erbyn 2050.
I gael rhagor o wybodaeth, cer i: https://llyw.cymru/dydd-miwsig-cymru
I gefnogi’r dydd, defnyddia - #DyddMiwsigCymru