Digwyddiadau Rhithwir: gwneud yn siŵr bod eich cynulleidfa yn y seddi gorau

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 28 May 2020

Cipolwg ar fyd cynnal digwyddiadau rhithwir gan Duncan Thompson, Cyfarwyddwr asiantaeth digwyddiadau creadigol yng Nghaerdydd, Production 78.

“Rydym ni i gyd yn deall nad oes digwyddiad heb bresenoldeb pobl, ac rydym wedi canfod fod yr un peth yn wir ym myd digwyddiadau rhithwir”

Ar ôl gweithio gyda Caerdydd Creadigol yn ddiweddar ar eu cyfres o ddigwyddiadau rhithwir llwyddiannus 'Sgwrs gyda...', rydym wedi canfod, yn yr un modd mae dim ond y digwyddiadau byw cryfaf sy’n llwyddo, dim ond digwyddiadau rhithwir sy’n ymgysylltu a chwrdd â disgwyliadau eu cynulleidfaoedd yn y ffordd fwyaf effeithiol a gwreiddiol sy’n gallu llwyddo.

Gall cynulleidfaoedd fod yn ffyddiog o gael y profiad digwyddiad byw gorau posibl, ond sut allwn ni wneud hyn yn dda ar-lein yn ogystal â chynnal proffesiynoldeb a chyflawni’r un gwerthoedd cynhyrchu uchel rydym ni’n ymdrechu i’w cyrraedd gyda digwyddiadau byw?

Cynnwys, cynnwys, cynnwys...

Mae’n rhaid i’ch cynnwys fod yn ddigon da i ddenu cynulleidfa. Does dim pwynt creu, datblygu, mireinio a gorffen cynnwys nad oes neb eisiau ei weld. Felly, gwnewch yn siŵr fod gennych gynnyrch y mae pobl eisiau clywed amdano, cymryd rhan ynddo, ymgysylltu ag ef, dysgu amdano neu wylio a mwynhau.

Gwybod ble mae eich cynulleidfa...

Adnabod eich cynulleidfa a’u harferion yw’r cam nesaf wrth gynllunio beth sy’n digwydd nesaf gyda’ch digwyddiad rhithwir. Mae cynulleidfaoedd gwahanol yn defnyddio dulliau gwahanol i weld cynnwys ar-lein, ond mae un peth yn glir:

Mae fideo yn cynnal diddordeb mwy o wylwyr na chynnwys ysgrifenedig syml

Gall platfformau gwahanol gynnig cynnyrch a allai weddu’n well i’ch sefydliad na phlatfformau eraill. Dewiswch ble i ddarlledu yn ofalus:

Does dim rhaid i chi ddilyn y dorf; y peth pwysig yw ymgysylltu â’ch cynulleidfa yn y lle iawn ac yna gallwch eu harwain i’r cyfeiriad sy’n gweddu i nodau eich sefydliad. Er enghraifft, os mai eich gwefan eich hun yw offeryn cyfathrebu allweddol eich sefydliad ar gyfer ymwelwyr, cynhaliwch eich digwyddiad yn eich gwagle eich hun. Os oes gennych grŵp da a chyson o ddilynwyr ar Facebook, cynhaliwch eich digwyddiad yno.  

Peidiwch â theimlo wedi’ch cyfyngu os hoffech chi fynd yn bellach - mae’n bosib darlledu mewn mwy nag un lle ar y tro. Mae hyn ychydig yn fwy technegol ac efallai y bydd angen help arbenigwr arnoch ond mae ‘darlledu cydamserol’ i ystod o gyfryngau cymdeithasol a lleoliadau ar y we yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac mae’n cynyddu eich ystadegau ymgysylltu hollbwysig. Mae croeso i chi ffonio Production 78 i gael rhagor o wybodaeth am hyn.

Gwerthoedd cynhyrchu...

Dyma’r rhan anodd. Yr hyn sy’n allweddol i wneud eich digwyddiad rhithwir yn well na’r lleill yw canolbwyntio ar werthoedd cynhyrchu. Mae rhai pethau allweddol mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud yn iawn i gael y canlyniadau gorau:

  • Lleoliad – dewiswch leoliad sy’n iawn i’ch darllediad chi. Ystyriwch y canlynol: A yw’n dweud y peth iawn am fy narllediad? A yw’n ddigon tawel? Oes ganddo olau naturiol? Ydy fy mhlant yn mynd i darfu?
  • Camera – os gallwch chi gael gafael ar gamera HD ansawdd uchel, defnyddiwch ef. Mae’r camera rhagosodedig ar eich gliniadur, sydd ag eglurdeb llun isel, wedi’i ddylunio ar gyfer cyfarfodydd bob dydd, syml, rhwydd gyda’ch cydweithwyr. Mae’n well defnyddio camera USB o ansawdd uchel sy’n gallu cysylltu’n syth â’ch cyfrifiadur. Bydd rhaid i’r rhan fwyaf o gamerâu eraill ar lefel broffesiynol gael eu hamgodio i fformat ar y we (gallai fod angen profiad, caledwedd a chost ychwanegol i’w wneud yn dda). Gallwch logi gwe-gamerâu HD yn rhwydd gan y rhan fwyaf o gwmnïau cynhyrchu ffrydio da am ffi fechan.
  • Goleuo – gwnewch y defnydd gorau o’r golau sydd gennych yn eich lleoliad. Os gallwch chi gael golau ar eich wyneb yn defnyddio lampau neu olau naturiol, bydd hyn yn gwneud eich llun llawer yn fwy clir. Ceisiwch osgoi goleuadau llachar a ffenestri yn uniongyrchol y tu ôl i chi oherwydd gall achosi i’ch camera greu smotyn adlewyrch.
  • Sain – gwnewch yn siŵr bod y meicroffon ar eich dyfais neu gamera yn ddigon da i chi gael eich clywed. Weithiau, os ydych chi’n defnyddio meicroffon sydd wedi’i ymgorffori yn eich dyfais, gall eich llais swnio’n bell i ffwrdd a gallwch glywed ffan eich gliniadur yn troelli yn y cefndir neu hyd yn oed sŵn eich teipio neu dapio ar y ddesg yn ystod y digwyddiad.
  • Cysylltiad – bydd rhaid i chi wneud yn siŵr fod gennych gysylltiad â’r we sy’n ddigon cryf i gynnal darllediad cyson o ansawdd uchel. I osgoi gweld eich sgrîn yn rhewi neu brofi trafferthion gyda’r sain, peidiwch â dibynnu ar WiFi - byddwch yn hen ffasiwn a chysylltwch â’ch llwybrydd gyda chebl rhwydwaith. Gwiriwch gyflymder eich cysylltiad; mae’n rhaid i chi gael cyflymder lanlwytho da a sefydlog a lled band i ffrydio fideo. Cyfyngwch ar ddefnyddwyr eraill yn eich cartref os gallwch chi - drwy leihau ffrydio arall neu chwarae gemau ar yr un cysylltiad pan fyddwch yn darlledu, gallwch gael y lled band gofynnol i ffrydio darllediad o ansawdd uchel.
  • Hysbysiadau – dylech osgoi tynnu sylw eich cynulleidfa, yn ogystal â chi eich hun. Yn union fel yn y sinema, gwnewch yn siŵr na fydd eich ffôn yn canu, na fydd sŵn hysbysiadau ebost, ac na fydd negeseuon testun yn tarfu.
  • Ymgysylltu – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cyflwyno eich brand digwyddiad yn broffesiynol. Os gallwch chi, beth am greu sleidiau cyflwyno, sleidiau aros, graffeg a chyflwyniadau, a fydd yn edrych yn fwy proffesiynol. 
  • Ymarfer – dylech ymarfer popeth ymlaen llaw. Bydd yn eich helpu i gadw eich pwyll ac aros yn ddealladwy yn ystod y digwyddiad.
  • Byddwch yn hygyrch – siaradwch â’ch cynulleidfa fel petaent yn yr ystafell gyda chi a siaradwch eu hiaith nhw.
  • Amseru – dewiswch yr amser cywir ar gyfer eich digwyddiad. Yn ôl marchnata Bizibl, yn ystod y bore yw’r amser mwyaf effeithiol i gynnal eich digwyddiad, unwaith yr wythnos (dydd Mawrth, Mercher neu Iau), am uchafswm o 45 munud. Rydw i’n credu’n gryf y dylech ddewis yr amser sydd fwyaf addas i’ch cynulleidfa. Yn bwysicach oll, gwnewch yn siŵr ei fod ar gael ar-lein wedi hynny i fanteisio ar ymgysylltu gymaint â phosibl â’r rhai nad oedd yn gallu gwylio’n fyw. Byddwch yn brydlon a dechreuwch ar amser, bob amser.

Gwiriwch eich canlyniadau...

Gosodwch dargedau rhwydd y mae modd i chi eu meincnodi a gwiriwch eich bod yn eu cyrraedd ar ôl gorffen. Dyma rai farcwyr defnyddiol:

  • Gosodwch feddalwedd dadansoddi’r we ar eich gwefan neu defnyddiwch ystadegau cyfryngau cymdeithasol cynwysedig.
  • Defnyddiwch ryngweithiadau ar-lein yn ystod eich darllediad. Mae sgwrsio, holi ac ateb a phleidleisio yn adnoddau sy’n gallu cael eu hintegreiddio i’ch darllediad drwy blatfformau proffesiynol a chwmnïau cynhyrchu.
  • Casglwch ystadegau gwylwyr byw. Mae rhai platfformau a gwasanaethau ffrydio yn gallu rhoi ystadegau ymgysylltu fesul eiliad i chi. Gallwch hyd yn oed weld yr union eiliad y gwnaeth eich gwylwyr ei ddiffodd! Rhywbeth efallai na fyddwch chi bob amser eisiau gwybod...
  • Holwch eich cynulleidfa. Gofynnwch iddynt am eu barn a beth allwch chi ei wneud yn wahanol tro nesaf.

Eich tro chi... 

Defnyddiwch beth bynnag yr hoffech o’r nodiadau hyn, y rhannau sy’n gweithio i chi, ond yn bwysicaf oll gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried eich cynulleidfa bob amser. Os oes gennych chi’r cynnwys iawn, wedi’i gyflwyno gyda’r gwerthoedd cynhyrchu gorau o fewn eich gallu, fe welwch chi’r canlyniadau. 

Draw atoch chi, dangoswch i ni beth allwch chi ei wneud…gallwch bob amser gysylltu â rhywun proffesiynol am gymorth ac arweiniad. 

Pob lwc!