Mae Bubblewrap Collective eleni'n dathlu 10 mlynedd o wneud i bethau gwych ddigwydd ar sîn gerddoriaeth Cymru. Mae'r label recordiau annibynnol o Gaerdydd wedi treulio'r degawd diwethaf yn cynyddu ei restr o gerddorion talentog, gan gynhyrchu recordiau gwobrwyedig a chefnogi talentau cynhenid. Sefydlodd Rich Chitty Bubblewrap yn 2009 ac ers hynny, mae wedi mynd o nerth i nerth, gan ddatblygu'n un o'r labeli recordiau mwyaf ac uchaf ei barch yng Nghymru.
O ‘Ruins / Adeilion’ gan The Gentle Good, a enillodd Wobr Cerddoriaeth Cymru yn 2017 i record finyl cyntaf erioed Boy Azooga, mae Bubblewrap wedi hen arfer â llwyddiant beirniadol.
Aethon ni i gwrdd â'r sylfaenydd a'r perchennog, Rich Chitty, i'w longyfarch a'i holi am 10 carreg filltir fwyaf Bubblewrap dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Y cynnyrch 'go iawn' cyntaf ar y label. Cefais gyfraniadau gan yr holl artistiaid roeddwn i wedi bod yn chwarae neu'n teithio gyda nhw a lluniais albwm cysyniadol Nadoligaidd ar sail 12 diwrnod y Nadolig. Roedd yn cynnwys artistiaid fel Sweet Baboo, Allo Darlin' a The School.
Little Arrow fyddai un o fy ffefrynnau personol ar y label. I'r graddau yr es i ymlaen i chwarae drymiau ar albymau eraill gyda nhw. Wild Wishes oedd y cynnyrch cyntaf i gael ei enwebu am Wobr Cerddoriaeth Cymru ac ystyrir mai dyma waith gorau Little Arrow. Bydd iddo le arbennig yn fy nghalon gan i ni golli'r prif leisydd William Hughes i ganser fis Rhagfyr diwethaf.
111 trac. Pedair Cyfrol. Pum Awr. Yn swyddogol yr albwm stiwdio hiraf erioed. Gimig neu athrylith. Penderfynwch chi. Mae'r ffug-ddogfen y tu ôl i'r llenni hefyd yn werth ei gweld. Daeth y prif ganwr Dr Simon Read (meddyg go iawn) hefyd yn bwysig yn y gwaith o redeg Bubblewrap fel label.
4. My Name is Ian - In the Best Case Scenario We'd Die at The Time
Albwm cyntaf y band i'w ryddhau ar Bubblewrap ynghyd â'u casgliad o oreuon o blith eu 10 cynnyrch DIY blaenorol. Yn dal i fod ar y label hyd heddiw. Ac mae'r trac enwol wedi derbyn hanner miliwn o wrandawiadau ar Spotify. Record i Bubblewrap.
Cyfansoddwyd a recordiwyd ‘Universe’ yn y cyfnod cyn marwolaeth Mel o ganser ym mis Hydref 2014, a dyma ei datganiad cerddorol dwys a phrydferth olaf. Mae'r albwm hefyd yn arbennig i fi gan ei fod yn cynnwys gwaith celf gan y rhyfeddol Pete Fowler sef fy mhrif ysbrydoliaeth i fynd i faes dylunio graffig (fy mhrif waith).
6. Gentle Good - Ruins / Adfeilion
Enillydd Gwobr Cerddoriaeth Cymru 2017. Yr ail albwm gan Gareth Bonello ar Bubblewrap. Gwir drwbadŵr cerddoriaeth Gymraeg ac un o'r bobl fwyaf dymunol i mi gael y pleser o weithio gydag e.
7. Boy Azooga / Buzzard Buzzard Buzzard
Y cynnyrch ffisegol cyntaf erioed i'r ddau fand sydd wedi mynd o nerth i nerth.
8. King Gizzard & The Lizard Wizard - Polygondwanaland
Rhoddodd y rocwyr Aussie Psych King Gizzard & The Lizard Wizard eu pedwerydd albwm yn 2017 am ddim i unrhyw un ei wasgu. Gwnaethom ni gopi 'Cymru' gyda'n cyd-label o Gaerdydd Phwoar & Peace, gyda'r elw'n mynd at wasgu finyl artistiaid newydd o Gaerdydd fel Sock, Perfect Body a Zac White.
9. Sweet Baboo - The Vending Machine Project
Un o fy hoff artistiaid o Gymru ERIOED. Cefais weithio gyda Steve i ryddhau'r record hynod gyfyngedig hwn.
10. Right Hand Left Hand - Zone Rouge
Yn olaf - edrych ymlaen at y 'magnum opus' hwn gan y deuawd ôl-roc o Gaerdydd. Unwaith eto un o fy ffefrynnau o Gaerdydd dros y blynyddoedd ac mae'n bleser cael ei ryddhau. Allan ar 14 Tachwedd.
Bydd Bubblewrap Collective yn cynnal gig yng Nghlwb Ifor Bach ar 14 Rhagfyr i ddathlu degawd. Dyma'r lein-yp.