Nod Roman 'Diff Fusion, a ddaeth â thri o brosiectau Prifysgol Caerdydd (CAER Heritage, Porth Cymunedol a Caerdydd Creadigol), ynghyd â'r sefydliad datblygu cymunedol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) ac Amgueddfa Cymru at ei gilydd, oedd meithrin cyfeillgarwch newydd a fforwm ieuenctid rhyng-gymunedol parhaus, yn ogystal ag ysbrydoli'r bobl ifanc yn eu hastudiaethau.
Dywedodd Dr David Wyatt, Darllenydd mewn Cenhadaeth Ddinesig a Gweithredu Cymunedol yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, ac un o arweinwyr y prosiect:
Creodd y prosiect hwn bartneriaeth rhwng dwy ysgol wych ry'n ni wedi gweithio gyda nhw o'r blaen - roedd yn ymwneud â dod â chymunedau ynghyd o bob cwr o orllewin Caerdydd i archwilio treftadaeth gyffredin. Mae'r bobl ifanc mor greadigol ac mae wedi bod yn wych eu gweld yn cydweithio ac yn datblygu cyfeillgarwch dros yr wythnosau. Ry’n ni’n gobeithio bod y prosiect wedi agor eu llygaid i'r hanes a'r cyfleoedd i ddysgu sydd i'w gweld o'n cwmpas ym mhob man. Ry’n ni’n gobeithio hefyd y bydd yn arwain at fforwm ieuenctid ar draws y cymunedau hyn ac at bartneriaeth weithio barhaus rhwng gweithwyr ieuenctid, ysgolion a'r Brifysgol i gefnogi hyn.
Gwyliwch y crynodeb fideo hwn o'r prosiect:
Cymerodd y bobl ifanc 12 a 13 oed ran mewn amrywiaeth o sesiynau creadigol ac ymweliadau hanesyddol, gan gynnwys taith i Fila Rufeinig 2000 oed Trelái, cyd-greu gosodiadau celf dros dro yng Nghastell Caerdydd, gweithgareddau archeolegol arbrofol fel gwneud colur Rhufeinig yng Nghanolfan CAER a dylunio gemau fideo treftadaeth ym Mhafiliwn Grange.
Trwy gydol y prosiect buont yn gweithio’n agos gyda Dr Dave Wyatt, Prifysgol Caerdydd, Artist Preswyl CAER Nic Parsons, a’r gweithwyr ieuenctid Nirushan a Shoruk o Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, ynghyd â Danielle o Dîm Ieuenctid ACE. Daeth hyn i ben gyda pherfformiad Pyped Creadigol a arweiniwyd gan y disgyblion, yn arddangos yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu drwy gydol y prosiect, a darn o gelf ar raddfa fawr gyda’r artist o Gaerdydd, Geraint Ross Evans.
Dywedodd Geraint, a fu’n gweithio gyda’r bobl ifanc drwy gydol Tachwedd a Rhagfyr:
Fy rhan i yn y prosiect oedd gweithio gyda phobl ifanc a'u cael i ragweld eu profiad ar y prosiect 'Diff Fusion. Arweiniodd hyn at waith celf terfynol uchelgeisiol, sef y darlun panoramig enfawr hwn sy’n debyg i sgrôl, sy’n mynd â chi o Ganolfan CAER i fyny i’r Fryngaer, yn ôl drwy amser, lle maent yn digwydd dod ar draws pentref Rhufeinig a darnau eraill o’r hanes, ac yna yn y pen draw yn ôl i'r presennol. Yr agwedd fwyaf pleserus i mi oedd gweld y syniadau hyn yn dod yn fyw mewn ffordd weledol, a gweld y myfyrwyr yn gwneud y darluniau hyn, gan gymryd sgerbwd o syniad, yn ei hanfod, a’i droi'n rhywbeth sydd â gwir ystyr ac effaith.
Ro’n i’n hapus i fod yn rhan o’r prosiect ac fe wnes i fwynhau’n fawr. Fe wnes i fwynhau gweithio gyda disgyblion o orllewin Caerdydd. Fe wnes i fwynhau ein taith i Brifysgol Caerdydd yn fawr ac ro’n i’n teimlo’n ffodus iawn i gael gweld rhai o'r arteffactau hanesyddol a oedd yno. Roedd hynny'n ddiddorol iawn." Ychwanegodd Aaron, o Ysgol Uwchradd Gymunedol y Gorllewin, “Mae wedi bod yn llawer o hwyl, mae’r holl weithgareddau wedi bod yn hwyl, rwy’n hoffi’r gweithgareddau darlunio, yn enwedig Pokémon canoloesol. Ry’n ni hefyd wedi gwneud animeiddio stop-symud, ac fe wnes i fwynhau gwneud pypedau a gwneud sioe i ddweud wrth bobl am ein taith drwy amser."
Dywedodd Nic Parsons, Artist Treftadaeth CAER a Swyddog Datblygu Cymunedol ACE Arts:
Fe wnes i wir fwynhau gweithio fel artist ar y prosiect. Llwyddodd i gysylltu grŵp gwych o feddylwyr creadigol o bob oed, gan gynnwys disgyblion, haneswyr ac artistiaid, ynghyd â’r gweithwyr ieuenctid anhygoel o Bafiliwn Grange, staff ACE a staff cymorth o’r ddwy ysgol uwchradd, a ddaeth â chymaint o egni cadarnhaol drwyddi draw!
Daeth y prosiect i ben gydag arddangosfa a chyflwyniad yng Nghanolfan Dreftadaeth CAER ar 14 Rhagfyr 2022.
Dysgwch fwy am CAER Heritagea Phafiliwn Grangeneu dysgwch fwy am bartneriaeth Caerdydd Creadigol gyda CAER Heritage yn 2021.