Lansiodd Bro Morgannwg brosiect Lleoedd Creu mewn Llyfrgelloedd yn 2022 mewn lle a adnewyddwyd yn Llyfrgell Penarth. Yn 2023, agorwyd ail le yn Llyfrgell y Barri, a hynny yn y man a adnewyddwyd ar gyfer plant yn eu harddegau gynt.
Beth yw lle creu?
Lleoedd sy'n eich galluogi i ddefnyddio offer dylunio a chreu yw lleoedd creu. Maen nhw’n galluogi cymunedau i ddod ynghyd i gyd-greu, rhannu adnoddau a gwybodaeth, gweithio ar brosiectau, rhwydweithio ac adeiladu. Mae lleoedd creu’n helpu pawb, boed yn ddechreuwyr neu’n ddefnyddwyr uwch, i ddatblygu eu sgiliau a'u creadigrwydd. Maen nhw’n hyrwyddo datblygu sgiliau technoleg uwch sydd eu hangen ar gyfer ffyniant a symudedd cymdeithasol.
Beth sydd ar gael yn y lleoedd hyn?
Mae'r ddau le creu’n gartref i amrywiaeth o offer creu a dylunio digidol sy'n rhoi llawer o gyfleoedd i oedolion a phlant ddysgu sgiliau a datblygu eu syniadau creadigol:
- Argraffyddion 3D
- Torwyr laser
- Peiriannau Cricut
- Offer dylunio digidol
Y gobaith yw tanio’r dychymyg a gosod pobl ar lwybr creadigol o ddysgu personol a mwynhad. Efallai y bydd hefyd yn gam cyntaf i ddechrau busnes.
Cael rhagor o wybodaeth ac ymweld â'r lleoedd
Os hoffech chi fynd ar daith o amgylch y naill le neu'r llall, mae sesiynau Cwrdd â’ch Lle Creu’n cael eu cynnal drwy gydol mis Mai/Mehefin. Sesiynau rhad ac am ddim sy’n para awr yw’r rhain.
Ewch ati i ddilyn y Lleoedd Creu ar y cyfryngau cymdeithasol a gweld pa ddigwyddiadau sydd i ddod.
E-bost: makerspace@valeofglamorgan.gov.uk