Cynorthwyydd Llyfrgell

Cyflog
£20,400 pro rata
Location
Caerdydd
Oriau
Part time
Closing date
30.08.2022

Postiwyd gan: lornahooper

Dyddiad: 15 August 2022

Mae’r Cynorthwyydd Llyfrgell, fel rhan o dîm llyfrgell penodol, yn cynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaethau llyfrgell craidd yn effeithiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae’r rôl yn cynnwys gwaith rheolaidd wrth y Ddesg Fenthyca, gan gynnwys fel yr unig aelod o staff wrth weithio shifftiau hwyr ac ar ddyddiau Sadwrn.

Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, mae’r rôl hon yn elwa o fod o fewn tîm llyfrgell bychan ac felly’n rhoi’r cyfle i weithio ar draws amrywiaeth eang o dasgau, prosiectau a chyfrifoldebau. Bydd yn eich galluogi i ddefnyddio eich ystod o sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a gweinyddol mewn amgylchedd llyfrgell.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn fan i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a phrofiad. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.

Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n gynrychioliadol o gymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.

Mae hon yn rôl rhan amser barhaol, yn gweithio 22.5 awr yr wythnos. Y patrwm gweithio fydd dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener a bydd yn cynnwys shifftiau gyda’r hwyr yn ystod y tymor a bryd hynny deiliad y swydd fydd yr unig aelod o staff ar ddyletswydd. Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion gan gynnwys cynllun pensiwn ardderchog, hawl gwyliau blynyddol hael, system weithio hyblyg a chyfleoedd ar gyfer goramser. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.

Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych yn cael eich cyflogi gan PSS Ltd ar hyn o bryd), fe’ch cyflogir gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.                                                                     

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Judith Dray (Judith.dray@rwcmd.ac.uk).

Dyddiad cyfweliad: 08/09/2022.

Disgwylir i’r rôl hon ddechrau ym mis Medi 2022

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.