Mae’r British Council yn recriwtio Cyfarwyddwr Cerddoriaeth. Gellir lleoli’r swydd hon yn unrhyw un o’n swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Caerdydd, Belfast, Caeredin, Manceinion, a Stratford yn Llundain.
Bydd y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth yn cynrychioli’r British Council a gweithredu fel arweinydd blaenllaw ar ein rhan ym maes cerddoriaeth. Bydd hefyd yn gweithredu fel cynghorydd allweddol ar holl weithgareddau’r sector i’r Cyfarwyddwr Celfyddydau ac uwch arweinwyr rhwydwaith y British Council yn unol â Gweledigaeth y British Council, blaenoriaethau strategol a’r Fframwaith Celfyddydau Byd-eang.