Heddiw (Dydd Llun 4ydd o Chwefror) cyhoeddodd Clwb Ifor Bach ei gynlluniau i gymryd un o leoliadau mwyaf adnabyddus Cymru a’i wneud yn fwy.
Mae’r lleoliad cerddoriaeth hanesyddol ar Stryd Womanby yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb, sy’n cynnig ehangu i’r adeilad gwag drws nesaf i’r safle presennol.
Bydd yr ehangiad yn creu lleoliad newydd gyda chapasiti o 800 ar gyfer yr 21ain ganrif ac mae’r cynlluniau’n arddangos adeilad trawiadol, sy’n gweddu gyda’i leoliad hanesyddol ar Stryd Womanby.
Bydd y cynlluniau, a ddyluniwyd gan benseiri Nissen Richards Studio sy’n enwog am Printworks yn Llundain, yn cael eu datgelu i’r cyhoedd ddydd Mawrth 5ed o Chwefror mewn ymgynghoriad agored yng Nghlwb Ifor Bach o 10am hyd at 6pm. Hefyd, gall pobl weld y cynlluniau arfaethedig a rhoi adborth drwy arolwg ar-lein sydd ar gael ar wefan y Clwb.
Dywedodd Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach: Yn 2018 yn unig, fe wnaethom gynnal 450 o ddigwyddiadau a gweithio gyda 997 o artistiaid. Ond gallem gael fwy o effaith fyth pe byddem yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau capasiti sy’n ein dal yn ôl.
“Gall Caerdydd ddarparu ar gyfer bandiau sy’n denu tyrfaoedd o 80, 8,000 a 80,000 ond mae gormod o fylchau rhyngddynt. Rydym am gynnal mwy o ddigwyddiadau a diddanu mwy o bobl, tra’n parhau i hyrwyddo diwylliant Cymru a’r iaith yn eu holl ffurfiau.
Mae wedi bod yn hynod o drist gweld nifer o leoliadau annibynnol, poblogaidd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau fel Buffalo, Gwdihw a Muni Arts yn cau. Mae cau’r rhain wedi siglo cerddoriaeth ar lawr gwlad yn y ddinas ac wedi’i gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn ceisio diogelu ein dyfodol a dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru.
“Bydd cael lleoliad mwy hefyd yn sicrhau y bydd Clwb yn gallu datblygu ei rôl fel arweinydd yn y sector yng Nghymru drwy ddatblygu talent ar lawr gwlad, datblygu sgiliau ac ymgysylltu cymunedol ar gyfer cynaliadwyedd a thwf y sector cerddoriaeth. Yn ogystal â diogelu Clwb ar gyfer y dyfodol, mae hyn yn golygu bydd yr adeilad yn diogelu’r sector cerddoriaeth ehangach yng Nghaerdydd a Chymru.
“Rydym ychydig o gamau i ffwrdd o wireddu’r fenter hon, ond rydym yn edrych ymlaen at weld yr ymateb i’n cynlluniau cychwynnol yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”
Am 35 mlynedd, mae Clwb Ifor Bach wedi dod ag artistiaid y byd i Gymru – a chyflwyno artistiaid o Gymru i'r byd. Dechreuodd bandiau fel Super Furry Animals a Stereophonics yn fach yma a mynd ymlaen i fod yn llwyddiannus ym mhobman. Mae wedi rhoi lle i bobl ifanc fynd allan, gofod i feithrin eu crefft a datblygu gyrfa mewn cerddoriaeth.
Mae cynlluniau ar gyfer yr ail-ddatblygu wedi’u gwneud yn bosibl oherwydd i Gyngor Caerdydd gytuno i gaffael yr adeilad y drws nesaf, a’i brydlesu i Clwb am y tymor hir.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas: “Mae lleoliadau cerddoriaeth yn parhau i ychwanegu’n sylweddol at yr hyn sydd gan y ddinas i’w gynnig yn ddiwylliannol. Yn ogystal â denu ymwelwyr, cadw swyddi a chreu lleoliadau unigryw i bobl ymweld â nhw a’u mwynhau, mae gan y lleoliadau hyn yn aml arwyddocâd hanesyddol.
“Dechreuodd bywyd Clwb Ifor Bach fel cartref i’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd ac mae bellach yn lleoliad sy’n ffynnu lle mae nifer o gerddorion a bandiau o Gymru yn dechrau eu gyrfaoedd. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phawb dan sylw i gynorthwyo perchnogion Clwb gyda’u cynlluniau ar gyfer ehangu, er mwyn i ni allu diogelu’r sîn cerddoriaeth fyw yn Stryd Womanby.
“Wrth edrych ar y darlun ehangach, rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi Strategaeth Cerddoriaeth Caerdydd yn y gwanwyn, gyda chyfres o argymhellion gan Sound Diplomacy, sy’n enwog yn fyd-eang, ar sut y gallai’r cyngor a’i bartneriaid gefnogi’r sector creadigol yn y dyfodol.”
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhoi arian a chyngor i alluogi Clwb i gynnal astudiaeth ddichonoldeb ac i weithio gyda thîm arbenigol i greu dyluniadau cysyniad a chynllun busnes ar gyfer yr ail-ddatblygu.
I weld cynlluniau arfaethedig Clwb ewch i Clwb Ifor Bach ddydd Mawrth 5ed o Chwefror, 10am-6pm neu fynd ar-lein.