Christmas at Bute Park: Cyfle dylunio (Myfyrwyr blwyddyn olaf neu raddedigion diweddar)

Cyflog
£7575
Location
Parc Bute, Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
23.08.2024
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 July 2024

Mae From The Fields yn cynnig cyfle i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf a graddedigion greu eu gosodiad eu hunain ar gyfer Nadolig ym Mharc Bute.

Gyda chefnogaeth ein tîm rheoli a chynhyrchu creadigol, bydd myfyrwyr yn cael cynnig y cyfle i weld sut brofiad yw creu gosodiad ar gyfer llwybr golau trochi y byddent wedyn yn gallu ei arddangos mewn llwybrau golau eraill neu ddigwyddiadau tebyg.

Bydd y prosiect yn cynnig y cyfleoedd canlynol i gefnogi datblygiad unrhyw gyfansoddiadau:

  • Cyfarfod gyda Thîm Greadigol Nadolig ym Mharc Bute
  • Taith o’r safle
  • Briff creadigol
  • Cefnogaeth ac arweiniad
  • Gwahoddiad i gael rhagolwg o'r gosodiadau cyn i'r safle agor

PWY ALL YMGEISIO?

  • Rhaid i chi fod yn fyfyriwr ym mlwyddyn olaf eich cymhwyster mewn addysg uwch yng Nghymru neu wedi graddio yn 2022, 2023 neu 2024.
  • Gallwch wneud cais i'r cyfle hwn fel dylunydd unigol neu ar y cyd.
  • Rydym yn awyddus bod Nadolig ym Mharc Bute yn rhoi llwyfan i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ac rydym yn annog yn gryf unigolion sydd â threftadaeth Gymreig i ymgeisio ond nid yw hyn yn hanfodol.

BETH SYDD EI ANGEN?

Cofiwch i gynnwys y canlynol yn eich cynnig:

  • Amlinelliad o'ch dyluniad gyda delweddau neu luniadau. Gall y delweddau fod yn fwrdd naws o enghreifftiau o ddyluniadau / gosodiadau / eitemau tebyg
  • Dadansoddiad uchel o'r gyllideb
  • Yr ardal a ddewiswyd yn y parc a disgrifiad o sut y caiff y gosodiad ei osod yn yr ardal honno
  • Disgrifiad byr o sut rydych chi am i'r gynulleidfa deimlo a dehongli'r dyluniad
  • Mae'n bwysig canolbwyntio ar themâu'r Nadolig a thymor y gaeaf
  • Byddem wrth ein bodd pe bai'r gosodiad yn gallu mynd ymlaen a theithio o amgylch digwyddiadau eraill felly cofiwch i gadw hyn mewn cof

CYNIGION

Nodwch yr ystyriaethau ymarferol canlynol wrth roi cynnig at ei gilydd.

Dylai'r gosodiad fod yn wydn hyd at 6 wythnos o dywydd gaeafol Prydeinig, felly dylai fod yn ymarferol o dan y rhewbwynt (hyd at -10), gwrthsefyll gwyntoedd 40mya a glaw trwm.

A yw’n addas ar gyfer llwybr Nadoligaidd – er nad yw ein llwybr yn cynnwys elfennau traddodiadol y Nadolig (Santa, Ceirw ac ati) mae’n canolbwyntio ar themâu’r Nadolig, boed yn dân clyd, dathliad, treulio amser gyda’n gilydd, neu ymdeimlad o rhyfeddod, ac mae ganddo awgrymiadau cynnil o seiniau traddodiadol y Nadolig drwyddo draw.

Bydd y parc ar agor yn ystod y dydd a bydd diogelwch y gwaith yn cael ei fonitro gan staff diogelwch ond dylid ystyried sut y gellir gosod unrhyw osodiadau yn y ddaear neu eu gwneud yn arbennig o anodd eu symud (er4 enghraifft, mae rhaffau hir o LEDs yn anodd eu tynnu'n gyflym ac felly’n addas)

Ar y safle bydd technegwyr medrus sy’n gallu datrys unrhyw namau syml sy’n codi yn y gwaith yn ystod y sioe a byddant yn gwirio bod y gwaith celf yn gweithio fel y bwriadwyd bob dydd. Bydd angen cyfathrebu’n drylwyr am unrhyw ddiffygion mawr gyda’r artist neu gwneuthurwr nes ei ddatrys. Yr artist neu’r gwneuthurwr sy’n parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod y gwaith celf yn gweithio fel y bwriadwyd ar gyfer y 6 wythnos y mae’n fyw adeg y Nadolig ym Mharc Bute.

Y gyllideb ar gyfer y prosiect hwn yw £7575.00

Anfonwch ymholiadau a chyflwyniadau at : Lizzie@fromthefields.co.uk

Os hoffech chi drafod syniad neu gynnig neu'r lleoliadau o fewn Parc Bute ar gyfer gosodiad, mae croeso i chi gysylltu â’r cyfeiriad e-bost uchod. Rydw i’n fwy na pharod i gynorthwyo gyda syniadau a chysyniadau.

Rhaid derbyn pob cyflwyniad erbyn 5pm ar 23 Awst 2024

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event