Soniwch amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol
Cefais fy magu ar fferm yn Lledrod yng Ngheredigion yng nghanol unman! Ro’dd hyn yn golygu y ces i’r rhyddid i chwarae tu allan, i ysgrifennu ac i fod yn greadigol ers yn ifanc iawn. Yn hwyrach, fe wnes i ddechrau chwarae’r delyn a mwynhau teithio’r byd yn cystadlu ac yn perfformio. Penderfynais i beidio parhau â’r delyn fel gyrfa, ond yn hytrach i astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd a mwynhau pedair blynedd arbennig. Ro’dd y cyfleoedd allgyrsiol yn ystod y cyfnod yn werthfawr; o gyflwyno rhaglenni radio, i berfformio gydag Aelwyd y Waun Ddyfal, ac ennill y fedal ddrama yn Eisteddfod T 2020.
Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?
I mi, cyfres o gamau bach sydd wedi arwain at le’r ydw i heddiw, yn hytrach nag un cam mawr! Rwy’n ffodus iawn bod cyfle wedi codi yn fy swydd gydag ITV Cymru Wales i gyflwyno rhaglen gelfyddydol ‘Backstage’ - y cyntaf o’i math ar y sianel. Wrth i’r cyfleoedd i drafod celf a diwylliant brinhau yng Nghymru, dwi’n ddiolchgar bod ITV yn gweld gwerth mewn rhaglen o’r fath ac yn rhoi llwyfan cenedlaethol i dalentau Cymreig. Ar lefel bersonol, mae cael cyflwyno rhaglen gyfan a chwrdd â chymaint o bobl yn brofiad dwi wir yn ei drysori. Ry’n ni’n recordio’r ail gyfres ar hyn o bryd - ac yn chwilio am gyfranwyr i’r gyfres nesaf yn barod!
Beth oedd yr her fwyaf?
Yr her fwyaf i mi wrth gyflwyno Backstage oedd gweithio’n Saesneg. Dyma’r swydd gyntaf lle dwi’n gweithio’n gyfan gwbl yn fy ail iaith, ac roedd cael y balans rhwng bod yn naturiol ond yn egnïol yn sialens i ddechrau. Wrth i mi ymarfer a recordio mwy o benodau, rwy’n teimlo tipyn yn fwy cyfforddus. Ond dwi ddim yn credu y bydd yr ofn yna o ddweud gair Cymraeg ar ddamwain byth yn mynd!
Fyddech chi'n mynd ati'n wahanol pe baech chi'n dechrau o'r dechrau?
Wrth edrych yn ôl, dwi’n difaru peidio cadw mwy o gofnod o bethau y gwnes i pan oeddwn i'n ifancach, yn enwedig o’m dyddiau yn chwarae’r delyn. Bryd hynny, doedd cyfryngau cymdeithasol ddim yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo, felly bydden i byth yn postio am fy anturiaethau. Erbyn hyn, fe fydden i wrth fy modd yn gallu pori trwy’r archif a gweld fy natblygiad!
Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?
Gan fod fy swydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, ro’dd hi’n naturiol felly y byddai Backstage yn cael ei recordio yma hefyd. Dwi’n ffodus iawn fy mod i’n gallu gweithio yng Nghymru, ar raglen sydd yn dathlu talentau celfyddydol Cymreig. A dwi’n dwlu byw yng Nghaerdydd hefyd ac yn falch bod pethau wedi ail-agor a bod y bwrlwm ’na yn ôl!
Eich cynnwys mewn erthygl Cam Creadigol Cyntaf
Hoffech chi gael eich cynnwys mewn erthygl? Cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi Gam Creadigol Cyntaf (profiad mewn diwydiant am y tro cyntaf) i'w rannu gyda'n cymuned.