Cam Creadigol Cyntaf: Cyflwyno fy nghyfres radio cyntaf

Ar gyfer ein cyfres Gam Greadigol Cyntaf y mis hwn, buom yn siarad â’r cyflwynydd a’r cynhyrchydd radio, Connor Morgans. Soniodd Connor am ei yrfa hyd yn hyn a dywedodd wrthym am ei brofiad o gyflwyno sioe radio am y tro cyntaf.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 17 May 2023

Image of Connor

Soniwch amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol

Cefais fy ngeni yn Abertawe a symudais i Sbaen pan oeddwn i’n dair oed. Wrth symud yn ôl flynyddoedd yn ddiweddarach sylwais y byddai fy mrawd bob amser yn chwarae cerddoriaeth o gwmpas y tŷ ac roeddwn yn gwybod yn syth fy mod eisiau gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth rywsut. Roedd y teimlad o wrando ar gerddoriaeth yn rhywbeth arall. Dechreuais gynhyrchu cerddoriaeth yn fy ystafell wely i ddechrau ond (yn ffodus) daeth hynny i ben yn gyflym. Fodd bynnag, gadawodd rhan goll yn fy mywyd, roeddwn i dal eisiau bod yn y diwydiant cerddoriaeth ond ddim eisiau cynhyrchu cerddoriaeth… Yna, wrth wrando ar Chris Moyles ar BBC Radio 1, gwnaeth rhywbeth glicio, roeddwn i'n gwybod yn union beth oeddwn i eisiau gwneud, roeddwn i eisiau gweithio ym myd radio!

Felly, dechreuais wirfoddoli i Radio Cardiff ac arweiniodd hynny wedyn at fy mhrentisiaeth gyda BBC Radio Wales ac yna dechreuais weithio ym maes cynhyrchu i Nation Radio, KISS FM UK a hyd yn oed BBC Radio 1.

Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?

Mae’n rhaid mai fy Ngham Creadigol Cyntaf fyddai cyflwyno fy rhaglen radio gyntaf un.

Cyflwynais fy rhaglen radio gyntaf ar Radio Cardiff ac roedd ar ôl rhyw flwyddyn o wirfoddoli, helpu yn y cefndir, gwneud te ac eistedd i mewn ar raglenni yn ystod fy mhenwythnosau. Fy mreuddwyd bob amser oedd cyflwyno rhaglen radio ar gyfer Radio Cardiff a doeddwn i ddim yn gallu credu fy lwc i mi gael cynnig gwneud rhaglen ar yr orsaf gymunedol pan oeddwn i’n 17! Cefais gyfle i gyflwyno rhaglen o'r enw 'Youth Beats' a fyddai'n canolbwyntio ar yr holl newyddion ieuenctid yng Nghaerdydd, roedd hi’n wirioneddol werth chweil cael arddangos gwaith gan bobl ifanc fel fi yn y brifddinas ar y rhaglen. Gan symud ymlaen chwe mlynedd rwy'n dal i fod yn cyflwyno i Radio Cardiff ac rydw i mor ddiolchgar am y rhaglen gyntaf honno i mi ei chyflwyno.

Beth oedd yr her fwyaf?

Yr her fwyaf i mi oedd dysgu siarad yn arafach. A byddech yn meddwl ar gyfer rhywun oedd eisiau gwneud radio mai dyna fyddai’r peth cyntaf y byddet ti’n gwirio amdanat dy hun cyn bod eisiau cyflwyno, ond doeddwn i ddim eisiau gadael i’m llais cyflym fy arafu… Diolch byth serch hynny, trwy wersi pan oeddwn i’n iau a gwneud ymdrech ymwybodol i siarad yn arafach llwyddais i ddod drosodd yn fwy eglur ar yr awyr ac yn ffodus rwyf wedi cyflwyno rhaglenni a digwyddiadau byth ers hynny.

Allwch chi rannu awgrymiadau i bobl eraill a hoffai gynnal eu rhaglen radio eu hunain?

Y cyngor mwyaf gen i fyddai y gallwch chi gynnal rhaglen radio a/neu bodlediad ble bynnag yr ydych chi a phryd bynnag yr hoffech chi! Y cyfan sydd ei angen arnoch chi i wneud eich podlediad eich hun neu hyd yn oed anfon demos i orsaf radio yw meicroffon eich ffôn. Os oeddech chi eisiau bod yn fwy proffesiynol gallwch gael meicroffon rhad ar-lein a all blygio i mewn i'ch gliniadur, lawrlwytho Audacity am ddim ar-lein ac i ffwrdd â chi. Mae mynd o flaen meicroffon a dysgu sut rydych chi'n swnio yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud y funud hon ac rwy'n ei argymell yn fawr!

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?

Pan ddechreuais i edrych i mewn i orsafoedd radio roedd gwirfoddoli i Radio Cardiff yn sefyll allan i mi. Hefyd, wrth gwrs, yn byw ychydig y tu allan i Gaerdydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr roedd yn gwneud llawer o synnwyr. Ond nid yn unig hynny, dwi'n caru dinas Caerdydd ac roeddwn i eisiau bod ynddi yn llawer amlach felly roedd Radio Cardiff yn syml iawn yn gwneud llawer o synnwyr.

Erthygl Camau Creadigol Cyntaf  

Hoffech chi gael eich cynnwys? Cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi Gam Creadigol Cyntaf (profiad mewn diwydiant am y tro cyntaf) i'w rannu gyda'n cymuned. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event