Mae Perfformiadau i'r Chwilfrydig gan Ganolfan Mileniwm Cymru yn dymor o waith pwerus llawn comedi, cabaret a cherddoriaeth. Mae Tuck gan Neontopia yn rhan o’r tymor sy’n cyflwyno’r tair agwedd hon. Sioe amlieithog sy’n digwydd yn erbyn cefndir sgleiniog byd drag Caerdydd, mae Tuck yn sioe sy’n drafod iechyd meddwl, ond yn parhau i fod yn berfformiad ddifyr.
Mae Tuck yn digwydd ym mar cabaret y Ganolfan, Ffresh, sy’n llwyfan perffaith ar gyfer y perfformiadau sy’n digwydd yn y clwb drag. Gyda dros 35 blynyddoedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol, mae Stifyn Parri yn chwarae rôl Patrick ‘Patsy Thatcher’, perfformiwr sy’n ddoniol ond yn grafog, mwgwd mae hi’n gwisgo i guddio ei hiselder. Mae perfformiad Parri yn gymysgedd o ddigri a thorcalonnus. Yn chwarae Steve ‘Martha Titful’ yw Iestyn Arwel, oedd yn rhan o Ffilm Fer Gorau BAFTA Cymru The List. Tra mae’r sioe yn dilyn stori Patsy, ei phartner ar y llwyfan a ffrind agos Martha sy’n ein harwain ar eu taith.
Yn cefnogi’r cymeriadau hon yw Teifion ‘Lola Bipolar’ sy’n cael ei chwarae gan Gareth Evans ac Antoine ‘Medusa Massid’ wedi’i chwarae gan Lewis Brown. Mae’r ddau gymeriad hyn yn cynnig rhyddhad comig fel breninesau drag gyda’i straeon diddorol o hunan ddarganfod. Mae Awdur Alun Saunders yn cyflwyno sioe o jôcs clyfar, golygfeydd blin sy’n dangos galar yn berffaith a phortread realistig o salwch meddwl. Am fwy na thair blynedd roedd Saunders yn ysgrifennu Tuck ac mae’r sioe orffenedig yn dangos ei ymrwymiad i’r stori. Mae golau gan Ace McCarron a sain gan Sam Jones yn cyflwyno golygfeydd emosiynol, wedi’i gefnogi can cyfarwyddo Jess Williams a Mared Siwan.
Mae amlieithrwydd Tuck yn hollbwysig i’r ffordd mae’r gynulleidfa yn deall y stori, er nad yw’r Gymraeg yn angenrheidiol. Mae Antoine methu siarad Cymraeg ac yn egluro pethau efallai mai dysgwyr a’r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg heb ddeall. Er hyn, mae sawl sgwrs ddoniol ac emosiynol ar gyfer y gynulleidfa sy'n siarad Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn pwysleisio bod lleoliad y sioe yn brifddinas Cymru ac yn gwneud golygfeydd yn fwy personol. Cyn y sioe, wnaeth Saunders egluro i’r gynulleidfa bod amlieithrwydd Tuck yn adlewyrchu bod y ddrama yn canolbwyntio ar siarad, speaking. Mae cymeriadau yn siarad fel maent yn teimlo, os mae gair Cymraeg neu Saesneg yn well i gyfleu beth maent yn ceisio dweud.
Dywedodd Saunders hefyd ei bod yn ddiolchgar i gael y cyfle i ddod â’r sioe hon i’r llwyfan yn y ddinas ble mae’n perthyn. Meddai hefyd bod Canolfan Mileniwm Cymru nid yn unig yn lle i weld sioeau mawr, ond hwb i greadigrwydd amrywiol a rhywle i gyflwyno straeon sydd eisio gael ei glywed.
Wnaeth mis Hydref gweld Caerdydd yn dod yn ‘goleudy ar gyfer amrywiaeth’ ar gyfer Gŵyl Gwobr Iris, yn troi Caerdydd yn brifddinas ffilm LGBT+ y byd. Mae Caerdydd yn parhau i gynrychioli lleisiau amrywiol yn y ddinas trwy Perfformiadau i’r Chwilfrydig o Bullish (20-24 Tachwedd) sy’n archwilio hunaniaeth traws-ddynol, i Behind The Label (13-14 Rhagfyr) sy’n rhoi llais i’r rhai sydd wedi’i labelu gan gymdeithas oherwydd eu brwydr gydag iechyd meddwl, trawma, dibyniaeth a digartrefeddi. Mae Tuck yn esiampl berffaith o sîn theatr amrywiol Caerdydd, sy’n ymdrechu i chwyddleisio lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae Tuck yn mynd ymlaen tan Dachwedd 3 yn Ffresh yn Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae tocynnau ar gael yma.