Caerdydd Creadigol a Hypha Studios yn cydweithio i gynnig lle am ddim ar gyfer oriel a stiwdio i bobl greadigol Caerdydd

Dros yr haf, fe gyhoeddodd Caerdydd Creadigol a Hypha Studios eu bod am roi’r cyfle i grwpiau o artistiaid ddefnyddio dwy uned fanwerthu wag ar Stryd y Frenhines, Caerdydd. Ar ôl derbyn nifer o geisiadau o ansawdd uchel, dewiswyd Future Arts Collective Cymru a PWSH & Neurospicy Play Date. Mae’r rhain bellach wedi symud i mewn i’r unedau gan eu defnyddio i gynhyrchu, arddangos ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 31 October 2024

Hypha Studios

Mae Hypha Studios yn elusen gofrestredig sy'n ddolen gyswllt rhwng landordiaid ac artistiaid. Ei nod yw helpu artistiaid a phobl greadigol i fanteisio ar leoedd gwag ar y stryd fawr a chael gwared ar yr hyn sy’n rhwystro cydweithio. Ers lansio’r elusen yn 2019, mae Hypha wedi cefnogi cyrff yn y sector diwylliannol drwy roi gwerth £2.2M o leoedd am ddim iddynt. Mae hyn wedi helpu i adfywio strydoedd mawr a thrawsnewid canolfannau trefol yn hybiau diwylliannol sy’n ffynnu a lle cynhelir digwyddiadau am ddim dan arweiniad y gymuned.

Ym mis Mehefin 2024, daeth Hypha Studios a Chaerdydd Creadigol ynghyd i hyrwyddo cyfle cyntaf Hypha i fanteisio ar leoedd gwag yng Nghymru.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Hypha Studios, Camilla Cole:

Mae gweithio mewn partneriaeth â Chaerdydd Creadigol yn gyfle hynod gyffrous i gefnogi pobl greadigol Caerdydd sy'n dod i'r amlwg drwy roi lleoedd am ddim iddynt yng nghanol y mannau lle maent yn byw ac yn gweithio. Mae cymuned mor gref o bobl greadigol yng Nghaerdydd, ond maent yn cael eu gwthio allan o’r ddinas gan nad oes yn agos ddigon o leoedd fforddiadwy i bobl greadigol yng Nghaerdydd. Prif amcan Hypha Studios yw cael gwared ar y rhwystr hwn i ddarpar artistiaid lleol a chefnogi'r gymuned ddiwylliannol sy’n ffynnu.

Meddai Pennaeth Caerdydd Creadigol, Jess Mahoney:

Ers ei lansio yn 2015, mae Caerdydd Creadigol wedi ceisio adrodd stori creadigrwydd yng Nghaerdydd. Mae lleoedd ffisegol y ddinas yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o'r stori hon. Wrth i enw da Caerdydd dyfu fel clwstwr creadigol o arwyddocâd byd-eang, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn edrych ar fodelau newydd o fuddsoddi mewn lleoedd cynhwysol a hygyrch, a’u cynnal, lle gall creadigrwydd ar lawr gwlad ffynnu. I'r perwyl hwn, rydym mor falch bod Hypha Studios yn dod â'u model arloesol i Gymru am y tro cyntaf. Bydd hyn yn datgloi mannau creadigol newydd yng nghanol ein dinas ac yn rhoi chwa o awyr iach i seilwaith sydd wedi mynd yn angof ac sydd heb ei ddefnyddio’n ddigonol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Future Arts Collective Cymru a PWSH/Neurospice Play Date hefyd wrth iddynt roi eu cynlluniau uchelgeisiol ar waith yn yr unedau.

Future Arts Collective Cymru

Representatives from FACC stood outside their new space
FACC tu allan i'r gofod newydd

Mae Future Arts Collective Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo dyfodol gwahanol. Dyfodol yw hwn sy'n canolbwyntio ar gymuned, gofal a llawenydd yn ogystal â’n galluogi i gydweithio i greu dyfodol sy’n cynnig gobaith a chyfiawnder. 

Mae’r elusen hon yn gyfuniad o hwyluswyr celfyddydau cymunedol, cerddorion, artistiaid perfformio, addysgwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a gwneuthurwyr crefftau. Maent yn cynnwys Kate Woodward, Reb Sutton, Neo Ukandu, Cliodhna Ryan, Sereen Al Khutubi, Trishna Jaikara a Skye Kimber.

Mae lleoliad FACC yn 117 Heol y Frenhines yn ganolfan ficro-gymunedol lle gall aelodau a grwpiau cymunedol greu'r dyfodol yr ydym am ei weld. Gall hyn gynnwys cynnal eu cymdeithasau cymdeithasol, gweithdai, digwyddiadau ac arddangosfeydd eu hunain, neu gymryd rhan ynddynt.

Cewch wybod rhagor am Future Arts Collective Cymru a'u cynlluniau ar gyfer y lleoliad hwn ar 
eu cyfrif Instagram (@future_arts_collective_cymru)

The FACC collective

PWSH X Neurospicy Playdate

Mae artistiaid PWSH wedi creu murluniau radical a llawn llawenydd yn ogystal â phrosiectau celf gyhoeddus i ddathlu gwahaniaeth ac ailddychmygu lleoedd cyhoeddus ledled Caerdydd. Grŵp celfyddydol niwroamrywiol sy’n prysur ennill ei blwyf yw Neurospicy Playdates, ac mae’n cynnal sesiynau lles i bobl niwrowahanol. Hanfod dod â’r ddau brosiect hyn at ei gilydd a rhannu lleoliad yw bod yn gynhwysol mewn modd ystyrlon a sicrhau bod y celfyddydau a lles creadigol ar gael i bobl sydd ar yr ymylon.

PWSH team
PWSH X Neurospicy Playdate tu allan i'r gofod newydd

Mae eu rhaglen gyhoeddus yn cynnwys preswyliadau, sesiynau lles creadigol, gweithdai celf, digwyddiadau meddiannu, arddangosfeydd a sesiynau cydweithio â phartner, yn ogystal â chynnal lle ar gyfer sgwrsio â'r gymuned.

Maent yn mynd i gydweithio â Benthyg (@benthyg) i greu llyfrgell gelf dros dro wythnosol yn ogystal â Visual World (@our .visual.world) i gynnal clybiau celf wythnosol i bobl Fyddar. Mae digwyddiadau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys Sesiynau ‘Spicy Desk’ (gigs bach), Clwb Pypedau gydag artist PWSH Ren Wolfe, cymdeithasau celf wythnosol bob nos Iau, gwneud murluniau cymunedol, a bydd Gwaith yn dod i'r gofod i gael sgwrs a chyd-gynnal digwyddiad cymdeithasol ym mis Tachwedd.

Cewch wybod rhagor am PWSH/Neurospice Playdate a'u cynlluniau ar gyfer y lleoliad ar eu cyfrifon Instagram (@pwshcdf/@neurospicyplaydatecdf) neu ewch i wefan PWSH.

An image of artwork on the walls of the space

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event