Siaradodd Spike Griffiths, cyfarwyddwr Beacons Music, â ni am ddigwyddiadau diwydiant y sefydliad oedd yn rhan o’n rhaglen Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn y gorffennol.
“Cysylltodd Lyndy Cooke o Handheld Events â ni, a oedd yn rhan o dimau CICH Casnewydd a CICH Rhondda Cynon Taf. Cychwynnodd drafodaeth i ddysgu rhagor am bobl ifanc greadigol, a arweiniodd aton yn cymryd rhan.
“Gwnaethon ni gynnal dau ddigwyddiad diwrnod llawn yn y diwydiant cerddoriaeth ar gyfer pobl ifanc. Cafodd y digwyddiadau hyn eu cynnal yng Ngholeg Gwent, Crosskeys a Choleg y Cymoedd, Nantgarw. Cawson ni gyfle i gwrdd â phobl ifanc newydd a fynegodd ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y sector creadigol a cherddoriaeth.
“Rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle i ni siarad â phobl ifanc, a esboniodd pa mor anodd yw hi iddyn nhw ddod o hyd i lwybrau i mewn i’r sector. Cafodd yr ardal effaith fawr ar y datgysylltiad hwnnw, gan gyfyngu ar gyfleoedd newydd i'r bobl ifanc hyn.
“Dangosodd bwysigrwydd cysylltedd; mae angen i ni gysylltu pobl ifanc ag unigolion neu Fusnesau Bach a Chanolig o’r un anian a allai hwyluso neu eu helpu i lywio llwybrau cychwynnol i’r sector. Mae angen i hyn ddigwydd yn aml ac yn gyson. Byddai’n wych cael mwy o gyfleoedd tebyg i’r digwyddiadau a gynhaliwyd gennym.”
Gwyliwch fideo o un o'r digwyddiadau yma: